Nawr rwy'n gwybod bod hyn i'w weld yng Ng-yr-A fel 'ar lafar' neu 'ar lafar
gwlad', ond a all unrhyw un awgrymu cyfieithiad effeithiol i'w roi mewn teitl ar
gyfer adran sy'n ymwneud â'r cysyniad 'ma?
Ydy 'Lledaenu'r Gair' â gormod o dôn grefyddol iddo o bosib mewn testun nad
yw'n grefyddol?
Rwyf am osgoi 'Lledaenu Gwybodaeth' gan ei fod yn rhy ffurfiol i'r cyd-destun.
Rhoi'r si ar led?
Byddai unrhyw awgrymiadau'n cael eu gwerthfawrogi'n fawr!
|