Fyse gen i ddim syniad beth yw "ysling". "Sling" sydd yn GyrA.
On 15 Jul 2009, at 22:33, Eluned Mai wrote:
> Ia, mae'r rheina'n ddigon taclus a digon byr, on'd ydyn - 'ysling
> nenfwd' (mae o'n swnio dipyn bach yn fwy Cymreig efo'r 'y', er mai
> benthyciad ydy o 'run fath) a 'cawod cadair olwyn' amdani.
>
> Diolch yn fawr iawn, Siān. A diolch i bawb eto.
>
> 2009/7/15 Siān Roberts <[log in to unmask]>:
>> Beth am rywbeth fel "sling nenfwd" neu "hoist nenfwd" a "cawod
>> cadair olwyn"
>> ?
>>
>> On 15 Jul 2009, at 00:50, Eluned Mai wrote:
>>
>>> Basa, mi fasa - ond y ffaith ei fod o'n sownd yn y nenfwd sy'n
>>> creu'r
>>> picil, achos mae 'na fwy nag un math o declyn codi. A dydy 'cadair
>>> codi sy'n crogi o'r nenfwd' ddim yn swnio'n iawn ar gyfer llyfryn
>>> lleoliadau gwyliau rhywsut - nac ychwaith 'sy 'nghlwm wrth y
>>> nenfwd' -
>>> 'sy'n dirwyn i lawr o'r nenfwd'. Pam y mae'r Sais yn cael rhoi
>>> dau air
>>> hefo'i gilydd mor dwt a ninna'n gorfod bod mor hirwyntog? Efallai
>>> basa 'dirwynlath nenfwd' yn iawn ond fasa neb yn deall 'dirwynlath'.
>>> 'Cawod cadair olwyn' - ga i neud hynna?
>>>
>>> Beth bynnag, llawer o ddiolch, Carolyn. Mae 'cadair codi' yn
>>> deud yn
>>> union beth ydy o - oes rhaid iddo fo fod yn sownd yn y nenfwd, dwed?
>>>
>>> 2009/7/14 Carolyn <[log in to unmask]>:
>>>>
>>>> Fasai rhywbeth fel 'cadair codi' neu 'sling codi' yn gwneud y
>>>> tro Eluned?
>>>>
>>>> -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
>>>> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical
>>>> terminology and
>>>> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran
>>>> Eluned Mai
>>>> Anfonwyd/Sent: 14 Gorffennaf 2009 09:30
>>>> At/To: [log in to unmask]
>>>> Pwnc/Subject: Re: 'Wheel-in shower' a 'ceiling hoist'
>>>>
>>>> Llawer iawn o ddiolch, Huw. Roeddwn i'n chwilio am rywbeth
>>>> damaid yn
>>>> fwy cryno am y math yma o gawod gan fod lle yn brin, ond efallai
>>>> mai
>>>> gwneud lle rhywsut fydd raid.
>>>>
>>>> Diolch yn fawr iawn am y llun! Bydd yn her i roi meddwl ar waith.
>>>> Efallai na ddaw na ddim ar ddiwedd y dydd ac mi fydd fy nghyfanswm
>>>> geiriau a gyfieithwyd wedi disgyn yn drychinebus!
>>>>
>>>> Diolch eto am dy gymorth.
>>>>
>>>> Eluned
>>>>
>>>> 2009/7/13 Huw Garan <[log in to unmask]>:
>>>>>
>>>>> Cawod addas ar gyfer cadeiriau olwyn?
>>>>>
>>>>> Ddim yn siwr am y ceiling hoist. Teclyn codi sydd yng nghronfa
>>>>> Cysgeir
>>>>
>>>> ond
>>>>>
>>>>> 'dyw 'teclyn codi yn y nenfwd' ddim yn swnio'n iawn rhywffordd
>>>>> ond dyna
>>>>
>>>> beth
>>>>>
>>>>> yw e. Gweler
>>>>> http://www.dolphinmidlands.co.uk/graphics/
>>>>> liftech_ceiling_hoist.jpg am
>>>>> lun
>>>>
>>>> o
>>>>>
>>>>> 'ceiling hoist' os yw hynny'n help.
>>>>>
>>>>> Hg
>>>>>
>>>>> -----Original Message-----
>>>>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
>>>>> vocabulary
>>>>> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of
>>>>> Eluned Mai
>>>>> Sent: 12 July 2009 15:50
>>>>> To: [log in to unmask]
>>>>> Subject: 'Wheel-in shower' a 'ceiling hoist'
>>>>>
>>>>> Oes gan rywun derm cryno am unrhyw un o'r uchod, os gwelwch yn
>>>>> dda?
>>>>> Maent yn ymddangos ar dudalen o symbolau fel eglurhad i'r
>>>>> symbolau hynny
>>>>> (mewn llyfryn lleoliadau gwyliau i bobl ag anableddau).
>>>>>
>>>>> Llawer o ddiolch
>>>>>
>>>>> Eluned
>>>>>
>>>>
>>
|