Basai 'cadair grog' yn dda ond mae o eisoes yn cael ei ddefnyddio am
'sling-back chair', gwaetha'r modd.
Llawer iawn o ddiolch, Ann!
2009/7/15 Ann Corkett <[log in to unmask]>:
> Ie, 'roeddwn i wedi meddwl am "cadair grog" yn gynharach - a phenderfynnu na
> fyddai'r term yn cydio rywsut!
>
> Ann
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Eluned Mai
> Sent: 15 July 2009 00:50
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: ATB: 'Wheel-in shower' a 'ceiling hoist'
>
> Basa, mi fasa - ond y ffaith ei fod o'n sownd yn y nenfwd sy'n creu'r
> picil, achos mae 'na fwy nag un math o declyn codi. A dydy 'cadair
> codi sy'n crogi o'r nenfwd' ddim yn swnio'n iawn ar gyfer llyfryn
> lleoliadau gwyliau rhywsut - nac ychwaith 'sy 'nghlwm wrth y nenfwd' -
> 'sy'n dirwyn i lawr o'r nenfwd'. Pam y mae'r Sais yn cael rhoi dau air
> hefo'i gilydd mor dwt a ninna'n gorfod bod mor hirwyntog? Efallai
> basa 'dirwynlath nenfwd' yn iawn ond fasa neb yn deall 'dirwynlath'.
> 'Cawod cadair olwyn' - ga i neud hynna?
>
> Beth bynnag, llawer o ddiolch, Carolyn. Mae 'cadair codi' yn deud yn
> union beth ydy o - oes rhaid iddo fo fod yn sownd yn y nenfwd, dwed?
>
> 2009/7/14 Carolyn <[log in to unmask]>:
>> Fasai rhywbeth fel 'cadair codi' neu 'sling codi' yn gwneud y tro Eluned?
>>
>> -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
>> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
>> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Eluned Mai
>> Anfonwyd/Sent: 14 Gorffennaf 2009 09:30
>> At/To: [log in to unmask]
>> Pwnc/Subject: Re: 'Wheel-in shower' a 'ceiling hoist'
>>
>> Llawer iawn o ddiolch, Huw. Roeddwn i'n chwilio am rywbeth damaid yn
>> fwy cryno am y math yma o gawod gan fod lle yn brin, ond efallai mai
>> gwneud lle rhywsut fydd raid.
>>
>> Diolch yn fawr iawn am y llun! Bydd yn her i roi meddwl ar waith.
>> Efallai na ddaw na ddim ar ddiwedd y dydd ac mi fydd fy nghyfanswm
>> geiriau a gyfieithwyd wedi disgyn yn drychinebus!
>>
>> Diolch eto am dy gymorth.
>>
>> Eluned
>>
>> 2009/7/13 Huw Garan <[log in to unmask]>:
>>> Cawod addas ar gyfer cadeiriau olwyn?
>>>
>>> Ddim yn siwr am y ceiling hoist. Teclyn codi sydd yng nghronfa Cysgeir
>> ond
>>> 'dyw 'teclyn codi yn y nenfwd' ddim yn swnio'n iawn rhywffordd ond dyna
>> beth
>>> yw e. Gweler
>>> http://www.dolphinmidlands.co.uk/graphics/liftech_ceiling_hoist.jpg am
> lun
>> o
>>> 'ceiling hoist' os yw hynny'n help.
>>>
>>> Hg
>>>
>>> -----Original Message-----
>>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>>> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Eluned Mai
>>> Sent: 12 July 2009 15:50
>>> To: [log in to unmask]
>>> Subject: 'Wheel-in shower' a 'ceiling hoist'
>>>
>>> Oes gan rywun derm cryno am unrhyw un o'r uchod, os gwelwch yn dda?
>>> Maent yn ymddangos ar dudalen o symbolau fel eglurhad i'r symbolau hynny
>>> (mewn llyfryn lleoliadau gwyliau i bobl ag anableddau).
>>>
>>> Llawer o ddiolch
>>>
>>> Eluned
>>>
>>
>
|