Heblaw am statws cyfreithio y ffurf, mae "unedig" yn *swnio* yn nes ati i fi
na "cyfunol".
Mae'r "-edig" yn awgrymu i fi mai rhywbeth wedi cael ei uno yw'r deyrnas (ac
nad oedd yn un o'r dechrau felly), ond mae "-unol" yn swnio fel pe bai yna
deimlad organig o undod o'r tu mewn i adrannau'r deyrnas.
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Saunders, Tim
Anfonwyd/Sent: 10 Gorffennaf 2009 15:08
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: UK alors!
Ddim yn anghytuno gyda'th resymwaith, ond 'Teyrnas Unedig' sydd wedi ennill
ei phlwyf yn neddfwriaeth y Cynulliad, ac felly dyna'r ffurf sy'n meddu
fwyaf ar rym cyfraith.
Tim
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Gorwel Roberts
Sent: 10 July 2009 15:04
To: [log in to unmask]
Subject: UK alors!
UK alors!
O ran UK a'r DU ac ati beth mae pawb yn ei ffafrio?
Y Deyrnas Unedig ynteu'r Deyrnas Gyfunol? Y DU ynteu'r DG?
Credaf mai'r Deyrnas Gyfunol sydd orau oherwydd mai teyrnas sy'n gyfuniad
yw'r Deyrnas Gyfunol - 'united' yn yr ystyr ei bod wedi ei rhoi ynghyd yn
hytrach nag 'united' oherwydd ei bod yn 'unedig'.
Byddai'n dda petai rhyw fath o gytundeb ynglyn a hyn yn hytrach na bod dau
derm ar waith
Gas gen i'r DU neu'r DG acronym wrth reswm. Sylwaf nad oes cysondeb yn Term
Cymru - weithiau defnyddir yr acronym ac weithiau ysgfifennir yr enw'r
llawn.
Oni fyddai'n bosibl penderfynu defnyddio un term dealladwy (a gaf i gynnig
'Y Deyrnas Gyfunol'?) a darbwyllo pawb nad yw y DU na'r DG yn glir nac yn
ddealladwy i neb ond cyfieithwyr?
Os oes rhaid i ni fyw yn y Deyrnas Gyfunol beth am i ni ei galw wrth enw
synhwyrol?
Gorwel
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 8.5.375 / Virus Database: 270.13.9/2228 - Release Date: 07/09/09
18:07:00
|