Aha - meddwl ochrol - syniad da!
Dw i ddim yn siwr a oes 'na un addas chwaith - ond mae'n cyfleu'r
siāp yn well na "talpiau"
Trionglau tatws yn haws i'w nabod na'r un o'r lleill am wn i.
(Diolch Tim)
Mae angen rhywbeth sy'n mynd i fachu.
Gyda llaw - o weld "mochyn" - Dw i'n cofio rhywun yn gofyn "Gymri di
fochyn?" i mi ac mi gymerais i mai "bochyn" oedd y gair am ei fod yn
debyg i'ch boch. Ro'n i'n meddwl mai cam-ddad-dreiglo oedd "mochyn"!
Diolch
Siān
On 10 Jul 2009, at 14:31, Ann Corkett wrote:
> Mae 'na sawl gair yn GyrA dan "segment (of an orange)", ond 'dw i
> ddim yn
> siwr pa mor addas y buasen nhw (Bruce ddim ar gael y munud yma)
>
> Ann
>
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Saunders,
> Tim
> Sent: 10 July 2009 14:18
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: wedges
>
> Wedi gweld 'tato triongl'.
>
> Tim
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Sian Roberts
> Sent: 10 July 2009 14:06
> To: [log in to unmask]
> Subject: wedges
>
>
> Beth fysech chi'n ei ddweud am "wedges" tatws?
>
> Mae GyrA yn sōn am gacen ac ati ac yn dweud "talp, darn, cwlffyn,
> gaing,
> sleisyn" ond does
> dim un ohonyn nhw'n cyfleu'r union ystyr ar gyfer tatws - sy'n
> cyfeirio at y
> siap a'r ffaith
> bod y croen amdanynt.
> A oes dewis heblaw "wejis" / "wedjis" - sy'n edrych yn rhyfedd ond yn
> swnio'n iawn?
>
> Diolch
> Siān
|