Newyddion gwych i mi, sydd bellach yn gweithio fwyfwy ar Mac! Roeddwn
yn gobeithio mai dyma oedd ystyr y newyddion am y lansiad :-)
Sioned
On 30 Jul 2009, at 11:55, Gruffudd Prys wrote:
> Helo ‘na bobl,
>
> Gwefan lle cewch chi wirio sillafu a gramadeg testun Cymraeg am ddim
> yw Cysill Ar-lein.
>
> Hynny yw, fersiwn gwe, ‘ar-lein’, o Cysill.
>
> Gan ei fod yn gweithio ar ffurf gwefan, bydd modd ei ddefnyddio ar
> gyfrifiaduron sy’n rhedeg systemau Mac, Linux a Windows.
>
> Mae hyn yn golygu y bydd gwirio sillafu a gramadeg Cysill ar gael i
> unrhyw un sydd â chyfrifiadur gyda chysylltiad i’r we.
>
> Ar gyfer cyfieithwyr a’r rhai sy’n ysgrifennu llawer o Gymraeg, bydd
> y fersiwn o Cysill sy’n rhan o’r pecyn Cysgliad yn parhau i
> ddarparu’r profiad gwaith mwyaf hwylus, cyflawn a phriodol. Serch
> hynny, gall y wefan barhau i fod yn ddefnyddiol mewn rhai
> amgylchiadau, er enghraifft pan fyddwch chi’n gorfod ysgrifennu e-
> bost pwysig o gyfrifiadur lle nad yw Cysill wedi’i osod arno.
>
> Bydd gwefan Cysill Ar-lein yn weithredol ar y 3ydd o Awst (Dydd Llun).
>
> Mae ‘na ragflas bach ynghlwm ar ffurf delwedd.
>
> Cofion,
>
> Gruff
>
>
|