Cytuno, cytuno, cytuno!!
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of D.Prys
Sent: 28 July 2009 12:53
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB: functionalism
Mae Carolyn yn llygad ei lle - term mathemategol/gwyddonol yw
'ffwythiant'. Nid yw'n gywir yn yr ystyr
gymdeithasegol/seicolegol/addysgol, lle mae 'swyddogaeth' yn gywir ac yn
eglur ei ystyr.
Camgyfieithu heb ddeall ystyr y term yw defnyddio 'ffwythiannaeth' -
peidiwch â lledu'r arfer drwg hwn,
Delyth
Carolyn wrote:
> Helo Rhian
>
> Dw inna wedi dod ar draws y broblem hon - well gen i swyddogaethol fy
> hun ond mae ffwythiannaeth etc. yn digwydd yn aml mewn dogfennau
> addysg/cymdeithaseg. Mae ffwythiant i fi'n fwy mathemategol/gwyddonol na
> swyddogaeth am ryw reswm (ond mae'n siwr mai chwiw ydy hynny) a dw i'n
> meddwl bod swyddogaethol yn cyfleu'r ystyr yn glir. Angen penderfynu
> ynglŷn â hyn - oes rhywun yn gwybod pam mae 'ffwythiannaeth' wedi'i
> ddefnyddio yn y lle cynta - bosib bod rheswm da? Yn ôl Hyw fy mab sy'n
> astudio cymdeithaseg/athroniaeth, mae swyddogaeth... yn cyfleu'r ystyr
> yn iawn a dyna mae o'n ei ddefnyddio wrth ddarlithio ar y pwnc yn UWIC
> (nid bod hynny'n golygu ei fod o'n iawn!) Mae'n amlwg bod y ddau derm yn
> cael eu defnyddio - basa'n dda penderfynu p'un sy orau.
>
>
>
> Carolyn
>
>
>
> ------------------------------------------------------------------------
>
> *Oddi wrth/From:* Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *Ar ran *Rhian Jones
> *Anfonwyd/Sent:* 28 Gorffennaf 2009 11:35
> *At/To:* [log in to unmask]
> *Pwnc/Subject:* functionalism
>
>
>
> Helo bawb
>
> Term arall ym maes cymdeithaseg - 'functionalism' - a dw i ar stop! Mae
> 'swyddogaetholdeb' yn y Termiadur (maes Seicoleg) ac yn y Geiriadur
> Termau Seicoleg. Dw i'n gweld hefyd bod Geraint yn
> awgrymu 'swyddogaethol' a 'swyddogaethwr' ar gyfer 'functionalist' yn ei
> Eirfa Cymdeithaseg (defnyddiol iawn - diolch!) ond 'ffwythiannaeth' sydd
> ym manyleb cymdeithaseg CBAC ar gyfer 'functionalism' ac yn anffodus
> mae'r ddogfen sydd gen i yn cyfeirio at y termau sydd yn y
> fanyleb. Unrhyw sylwadau ynglyn â 'ffwythiannaeth' tybed?
>
> Diolch
>
> Rhian
>
--
Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi,
gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig
gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y
neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar
unwaith a dilwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi,
rhaid i chi beidio defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a
gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i
hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn
Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu
bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu
100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn
nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract
rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa
Cyllid Prifysgol Bangor. www.bangor.ac.uk
This email and any attachments may contain confidential material and
is solely for the use of the intended recipient(s). If you have
received this email in error, please notify the sender immediately
and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you
must not use, retain or disclose any information contained in this
email. Any views or opinions are solely those of the sender and do
not necessarily represent those of the Bangor University.
Bangor University does not guarantee that this email or
any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless
expressly stated in the body of the text of the email, this email is
not intended to form a binding contract - a list of authorised
signatories is available from the Bangor University Finance
Office. www.bangor.ac.uk
******************************************************************
This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed. If you have received this e-mail in error, please notify the administrator on the following address: [log in to unmask]
Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol: [log in to unmask] *******************************************************************
|