Peidiwch a dweud dim ... mi wn i nad oes dwy "n" yn "penderfynu"!
Ann
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 15 July 2009 10:07
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB: 'Wheel-in shower' a 'ceiling hoist'
Ie, 'roeddwn i wedi meddwl am "cadair grog" yn gynharach - a phenderfynnu na
fyddai'r term yn cydio rywsut!
Ann
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Eluned Mai
Sent: 15 July 2009 00:50
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB: 'Wheel-in shower' a 'ceiling hoist'
Basa, mi fasa - ond y ffaith ei fod o'n sownd yn y nenfwd sy'n creu'r
picil, achos mae 'na fwy nag un math o declyn codi. A dydy 'cadair
codi sy'n crogi o'r nenfwd' ddim yn swnio'n iawn ar gyfer llyfryn
lleoliadau gwyliau rhywsut - nac ychwaith 'sy 'nghlwm wrth y nenfwd' -
'sy'n dirwyn i lawr o'r nenfwd'. Pam y mae'r Sais yn cael rhoi dau air
hefo'i gilydd mor dwt a ninna'n gorfod bod mor hirwyntog? Efallai
basa 'dirwynlath nenfwd' yn iawn ond fasa neb yn deall 'dirwynlath'.
'Cawod cadair olwyn' - ga i neud hynna?
Beth bynnag, llawer o ddiolch, Carolyn. Mae 'cadair codi' yn deud yn
union beth ydy o - oes rhaid iddo fo fod yn sownd yn y nenfwd, dwed?
2009/7/14 Carolyn <[log in to unmask]>:
> Fasai rhywbeth fel 'cadair codi' neu 'sling codi' yn gwneud y tro Eluned?
>
> -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Eluned Mai
> Anfonwyd/Sent: 14 Gorffennaf 2009 09:30
> At/To: [log in to unmask]
> Pwnc/Subject: Re: 'Wheel-in shower' a 'ceiling hoist'
>
> Llawer iawn o ddiolch, Huw. Roeddwn i'n chwilio am rywbeth damaid yn
> fwy cryno am y math yma o gawod gan fod lle yn brin, ond efallai mai
> gwneud lle rhywsut fydd raid.
>
> Diolch yn fawr iawn am y llun! Bydd yn her i roi meddwl ar waith.
> Efallai na ddaw na ddim ar ddiwedd y dydd ac mi fydd fy nghyfanswm
> geiriau a gyfieithwyd wedi disgyn yn drychinebus!
>
> Diolch eto am dy gymorth.
>
> Eluned
>
> 2009/7/13 Huw Garan <[log in to unmask]>:
>> Cawod addas ar gyfer cadeiriau olwyn?
>>
>> Ddim yn siwr am y ceiling hoist. Teclyn codi sydd yng nghronfa Cysgeir
> ond
>> 'dyw 'teclyn codi yn y nenfwd' ddim yn swnio'n iawn rhywffordd ond dyna
> beth
>> yw e. Gweler
>> http://www.dolphinmidlands.co.uk/graphics/liftech_ceiling_hoist.jpg am
lun
> o
>> 'ceiling hoist' os yw hynny'n help.
>>
>> Hg
>>
>> -----Original Message-----
>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Eluned Mai
>> Sent: 12 July 2009 15:50
>> To: [log in to unmask]
>> Subject: 'Wheel-in shower' a 'ceiling hoist'
>>
>> Oes gan rywun derm cryno am unrhyw un o'r uchod, os gwelwch yn dda?
>> Maent yn ymddangos ar dudalen o symbolau fel eglurhad i'r symbolau hynny
>> (mewn llyfryn lleoliadau gwyliau i bobl ag anableddau).
>>
>> Llawer o ddiolch
>>
>> Eluned
>>
>
|