Mae rheolau sefydlog y Cynulliad yn darparu bod rhaid i’r aelodau naill ai
tyngu llw i fod yn deyrngar, neu *roi cadarnhad* y byddan nhw’n deyrngar:
“RHEOL SEFYDLOG 1 — Aelodau
Llw neu Gadarnhad Teyrngarwch
1.1 Pan dyngir y llw teyrngarwch, neu pan roddir y cadarnhad cyfatebol, o
dan adran 23 o’r Ddeddf, rhaid iddo gael ei dyngu neu ei roi gerbron y
Clerc, yn gyhoeddus neu yn breifat.
1.2 Pan fydd aelod o’r llywodraeth:
(i) yn tyngu’r llw swyddogol, neu yn rhoi’r cadarnhad cyfatebol;
(ii) yn tyngu’r llw teyrngarwch, neu yn rhoi’r cadarnhad cyfatebol,
o dan adran 55 o’r Ddeddf, rhaid iddo hysbysu’r Clerc yn ysgrifenedig, o
fewn un diwrnod gwaith, ei fod wedi gwneud hynny.”
Felly, fyddai “Rhoddodd David Davies y cadarnhad” yn iawn?
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Sian Roberts
Anfonwyd/Sent: 27 Mehefin 2009 12:39
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: affirm
Mewn tribiwnlys:
John Jones took the Oath.
David Davies affirmed.
"Dwys-haeru" sydd yn GyrA ond dim ond un enghraifft bendant a welaf i wrth
gwglo.
Mae "cadarnhau" i'w weld mewn dogfennau gan y Swyddfa Gartref a'r Llysoedd
ond allwch
chi ddim dweud "Cadarnhaodd David Davies".
Rhywbeth fel "Adroddodd David Davies y cadarnhad"?
Diolch
Siân
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 8.5.339 / Virus Database: 270.12.93/2205 - Release Date: 06/27/09
05:53:00
|