Beth am y DU?
Mae'r acronym DU (Y Deyrnas Unedig) yn mynd dan fy nghroen
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Inc Cyfieithu
Translations
Sent: 25 June 2009 16:30
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Acronymau
Cytuno'n llwyr Delyth
Wil
D.Prys wrote:
> Gweler Canllawiau'r Termiadur
> http://geiriadur.bangor.ac.uk/termiadur/canllawiau_cy.html#13
>
>
> 13. Acronymau
>
> Mae acronymau yn peri problem arbennig yn Gymraeg, ym myd addysg fel
> mewn llawer maes arall, oherwydd eu dieithrwch, yr angen i dreiglo a
> hefyd oherwydd bod y llythrennau ‘C’ a ‘G’ yn codi mor aml a
> llafariaid yn llawer llai aml. Oherwydd hyn, ni ddylid cyfieithu
> acronymau i’r Gymraeg, ac eithrio'r dyrnaid enghreifftiau, megis CBAC
> (Cyd-bwyllgor Addysg Cymru) a WJEC (Welsh Joint Education Committee),
> lle mae’r acronym Cymraeg wedi hen blwyfo, neu’r eithriadau prinnach
> byth (megis ACCAC) lle defnyddir yr acronym Cymraeg (Awdurdod
> Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru) yn Gymraeg ac yn Saesneg. Yr
> arfer naturiol yn Gymraeg yw defnyddio enw’r corff yn llawn y tro
> cyntaf mewn sgwrs neu ddogfen ac wedyn gyfeirio at ‘Yr Awdurdod’, ‘y
> Gymdeithas’ ac ati os yw hi’n glir pa awdurdod, cymdeithas, corff,
> undeb ac ati sydd dan sylw.
>
>
>
>
> Elin Davies wrote:
>> Rhywun arall yn chwilio am arweiniad heddiw...
>>
>> Dwi wedi cael rhyw gyfnod o bwdu heddiw am acronymau. Ar ddiwedd y
>> ddogfen,
>> mae na restr o acronymau ac esboniad o'r frawddeg neu enw llawn. Ar
>> ben y
>> ffaith nad oes sôn am rai o'r acronymau yma yng nghorff y ddogfen (na'r
>> frawddeg gyfan), bron ym mhob achos ble maent yn cael eu defnyddio
>> mae hynny
>> mewn cromfachau ar ôl ei roi'n llawn. Ydi hyn yn hollol wirion neu fi
>> sy'n
>> bod yn flin heb fod angen? Dwi'n trio osgoi defnyddio acronymau
>> cymaint ag y
>> gallai fel rheol yn y Gymraeg, ac mae'r ddogfen yma'n gwneud i mi
>> amau mai
>> rhoi er mwyn rhoi mae awduron yn aml heb feddwl oes angen.
>> Ydw i'n iawn neu ydw i'n bod yn bigog? I mi, os rhoi acronym ar
>> dudalen 7,
>> yna dyna ddylid ddefnyddio ar dudalen 13, 35 a 68 wrth gyfeirio ato
>> eto, yn
>> enwedig os oes na restr lawn ar dudalen 97 yn rhoi pob un yn llawn.
>>
>> Diolch am unrhyw gyngor neu arweiniad ar y mater (a sori - does na
>> neb yma i
>> fi daeru efo nhw heddiw)!
>> Elin
>
>
|