Rwy'n credu bod modd dweud "maent yn canolbwyntio" heb wybod ar beth maent yn canolbwyntio ("paid â thynnu sylw dy chwaer - mae hi'n ceisio canolbwyntio"), yn yr un modd ag yr ydym yn gallu dweud bod camera'n "focused" heb wybod beth yw'r gwrthrych.
Felly, ar gyfer yr enghraifft wreiddiol ("more focused services"), beth am "wasanaethau sy'n canolbwyntio'n fwy" neu "wasanaethau sydd â ffocws gwell"? (Gan ddibynnu ar eich barn am y gair "ffocws", wrth gwrs.)
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn Iorwerth
Sent: 14 May 2009 10:35
To: [log in to unmask]
Subject: ATB: focused / more focused
Neu ei bod yn canolbwyntio ar ei gwaith? Y broblem yw'r ffordd mae 'focussed' yn cael ei ddefnyddio yn Saesneg - mae'n cael ei ddefnyddio fel petai'n gyflawn ynddo'i hun - y gwir yw - mae'n gwbl ddiystyr. Mae camera'n focused am ei fod yn 'focussed 'ar y gwrthrych mae'n tynnu ei lun tydi? Dydy 'more focussed services' yn golygu dim heb wybod ar be mae'r 'ffocws'!
******************************************************************
This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed. If you have received this e-mail in error, please notify the administrator on the following address: [log in to unmask]
Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol: [log in to unmask] *******************************************************************
|