Yr unig gyd-destun lle bydda i'n defnyddio'r gair ydi wrth sôn am gamerâu.
----- Original Message -----
From: "Melanie Davies" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, May 14, 2009 10:40 AM
Subject: Re: focused / more focused
> Oni allech chi ddweud 'Mae gan Helen/wasanaethau etc ffocws' yn y
> cyd-destun hwn? Dwi heb ddilyn y drafodaeth i gyd, felly mae'n bosib fy
> mod i wedi colli rhyw bwynt hollbwysig!
>
>
> ----- Original Message -----
> From: "Geraint Lovgreen" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Thursday, May 14, 2009 10:31 AM
> Subject: Re: focused / more focused
>
>
>> Na, ond faswn i ddim yn dweud "Helen is a focussed girl" ac ati chwaith -
>> beth mae'n ei olygu?
>>
>> Ond mi allwn i ddweud ei bod yn gweithio mewn modd canolbwyntiol (petai
>> raid ! )
>>
>>
>> ----- Original Message -----
>> From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
>> To: <[log in to unmask]>
>> Sent: Thursday, May 14, 2009 10:19 AM
>> Subject: Re: focused / more focused
>>
>>
>> Ym mha gyd-destun fyddet ti'n dweud 'canolbwyntiol'?
>>
>> Allet ti ddim dweud "Mae Helen yn ferch ganolbwyntiol" na "Dwi'n
>> ganolbwyntiol" nac "11
>> ffordd o fod yn ganolbwyntiol yn y gwaith" a dw i ddim yn siwr a fyddai
>> "Mae'r rhain yn
>> wasanaethau canolbwyntiol" yn gwneud synnwyr chwaith.
>>
>> Goleua fi!
>>
>
|