'statws athro neu athrawes gymwysedig' yw 'qualified teacher status' yn y ddwy enghraifft hyn (o leiaf) o is-ddeddfwriaeth Cymru:
http://www.opsi.gov.uk/legislation/wales/wsi2008/pdf/wsi_20081273_mi.pdf
http://www.opsi.gov.uk/legislation/wales/wsi2007/pdf/wsi_20071045_mi.pdf
Mae'n anodd deall pam na fyddai'r Cyngor Addysgu yn gofalu eu bod yn defnyddio yn eu cyhoeddiadau nhw yr union dermau Cymraeg sydd wedi'u defnyddio yn y gyfraith. Dŷn nhw ddim yn newid y termau Saesneg, mae'n debyg.
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Muiris Mag Ualghairg
Anfonwyd/Sent: 29 Mai 2009 01:54
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: certificated teacher
Nage, nid athro trwyddedig yw 'qualified teacher' ond 'Athro cymwys' -
dyna oedd yn cael ei ddefnyddio pan oeddwn i'n athro ryw ddeng mlynedd
yn ôl a dyna beth sydd ar wefan Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (sef
y corff sy'n cofrestru a rheoleiddio athrawon) gweler
http://www.gtcw.org.uk/registration_nqt_cym.html
"Dyfarnu Statws Athro Cymwys (SAC)"
a gwefan Prifysgol Casnewydd
http://www.teachertrainingwales.org/newportw.htm "Cyrsiau
Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon Ôl-raddedig gyda Statws Athro Cymwys"
Ac ar wefan Estyn
www.estyn.gov.uk/about_estyn/cy_Becoming_School_Inspector_08.pdf
"o leiaf statws athro cymwys (SAC) a chymhwyster addysg uwch fel gradd
neu HND; a ...."
Hyd y gwn i does na ddim 'certified teachers' o fewn y drefn sydd
ohoni yn y Deyrnas Unedig erbyn hyn - efallai eu bod yn bodoli
flynyddoedd yn ôl ond nid ers dros ddegawd (a dim son amdanynt ar
wefan y Cyngor Dysgu Cyffredinol chwaith!)
Un peth arall, does na ddim 'blwyddyn prawf' chwaith. Mae athro neu
athrawes yn athro neu athrawes gymwys, maen nhw'n cael blwyddyn o
'sefydlu' a chyfeirir atynt fel 'athrawon newydd gymhwyso' (Newly
Qualified Teachers) ond yn wahanol i'r hen drefn nid yw'r flwyddyn hon
yn effeithio ar eu statws fel athrawon cymwys.
Mae'n bosibl nad yw'r cleiant yn gwybod digon am fyd addysg a dylid, o
bosibl, dynnu ei sylw (ef neu hi) at hyn a gofyn ai 'qualified
teacher' oedd dan sylw ynteu ryw drefn nad yw bellach yn bodoli.
Muiris
2009/5/28 Eluned Mai <[log in to unmask]>:
> Ia, athro trwyddedig/athrawes drwyddedig sydd yn fy ngho innau hefyd
> am qualified teacher. Efallai bod 'certificated teacher' yn golygu
> rhywun sydd wedi cael tystysgrif neu radd i ddysgu ond nad ydy o'n
> 'qualified teacher' nes iddo lwyddo yn ei flwyddyn brawf. Mi fasa
> 'certificated teacher' wedyn yn rhywbeth fel 'athro tystysgrifedig',
> er na chlywais i erioed y term hwnnw'n cael ei ddefnyddio. Ydy'r
> cyd-destun yn rhoi gwell syniad am yr ystyr?
>
> Pob hwyl arni
>
> Eluned
>
> 2009/5/28 Alwyn Evans <[log in to unmask]>:
>> 'Athro trwyddedig' ydi 'qualified teacher' - chlywais i erioed derm
>> gwahanol ar gyfer 'certificated teacher' ac yn wir dydw'i ddim yn llawn
>> ddeall y gwahaniaeth rhyngddynt beth bynnag!
>>
>> Alwyn
>
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 8.5.339 / Virus Database: 270.12.43/2138 - Release Date: 05/27/09 18:21:00
|