Mae'n cymhlethu!
Mae gen i "head chef" (prif bencogydd?) a "commis chef" (dirprwy
bencogydd?) erbyn hyn.
Ro'n i'n meddwl bod y "pen" yn gwneud iddo swnio fel "pennaeth" ond
mae'n siwr ei fod yn gweithio ar yr un egwyddor ā "pensaer".
Geith y "cook in charge" fod yn "gogydd ā gofal".
Hwyl
Siān
On 15 Apr 2009, at 19:04, Geraint Lovgreen wrote:
> Ystyr y gair Ffrangeg "chef" yn llythrennol ydi "pennaeth" -
> gallech feddwl amdano fel "chief cook". Felly mae pencogydd yn
> iawn. Ond tybed a ydi 'uwch-gogydd' yn swnio'n fwy fel 'senior
> cook' na 'head chef'? I fi mae o'n swnio'n is na phencogydd, beth
> bynnag!
>
> ----- Original Message ----- From: "Huw Garan"
> <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Wednesday, April 15, 2009 4:47 PM
> Subject: Re: chef / cook
>
>
> Dim cweit. Pan adawais i'r brifysgol, es i weithio mewn gwesty yn
> y dre'
> fel chef dan hyfforddiant am ddwy flynedd gan ddilyn cwrs hyfforddiant
> proffesiynol yn y coleg trydyddol lleol. Cogydd yw unrhyw berson sy'n
> coginio ond mae chef wedi cael neu wrthi'n derbyn hyfforddiant
> proffesiynol
> yn y diwydiant arwlyo a lletygarwch, gan gynnwys astudio coginio,
> theori
> bwyd, dysgu am gynhwysion a chyfuniadau, diod, cyflwyniad bwyd.
>
> Os cogydd yw 'cook', a phen-cogydd yw chef, beth am 'uwch-gogydd'
> ar gyfer
> 'head chef'?
>
> Hg
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn
> Iorwerth
> Sent: 15 April 2009 14:46
> To: [log in to unmask]
> Subject: ATB: chef / cook
>
> Hyd y gwela' - mae 'chef' yn golygu 'pennaeth ar lond cegin o
> 'cooks' neu
> 'bennaeth ar adran benodol mewn cegin' sy'n arwain tīm. Mae
> 'pencogydd' yn
> awgrymu i fi bod pawb arall yn y gegin yn 'gogyddion' (chefs) hefyd
> ond
> dydyn nhw ddim - 'cooks' ydyn nhw ar y cyfan.
>
> -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message----- Oddi wrth/From:
> Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Geraint Lovgreen
> Anfonwyd/Sent: 15 Ebrill 2009 13:24
> At/To: [log in to unmask]
> Pwnc/Subject: Re: chef / cook
>
> Dwi'n meddwl y baswn i'n rhoi "cogydd" am "cook" a "phencogydd" (heb y
> cysylltnod ella? fel pencampwr) am "chef". Wedyn mi fase "head
> chef" yn
> "brif bencogydd".
>
> Geraint
>
> ----- Original Message -----
> From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Wednesday, April 15, 2009 2:10 PM
> Subject: chef / cook
>
>
> A oes ffordd hwylus o wahaniaethu rhwng "chef" a "cook"?
>
> Mae arna i eisiau dweud bod pedwar cook ac un chef wedi ennill gwobr.
> "Cogydd" swn i'n
> ddweud am y ddau yn naturiol.
>
> Mae GyrA yn rhoi "pen-cogydd" a "sieff" am "chef" a "cogydd",
> "cŵc",
> "cwc" am "cook". Mae
> hefyd yn rhoi "pen-cogydd" am "cook in charge", sef beth yw un o
> 'nghwcs i.
>
> Dw i ddim yn hoff o "sieff" ond ydi "pen-cogydd" yn swnio fel "head
> chef"?
> Ydi "cwc" yn
> swnio braidd yn ddilornus erbyn hyn? Mewn ysgolion a chartrefi
> henoed y
> mae'r rhain yn
> gweithio.
>
>
> O diar eto
>
> Siān
|