Dow! Ti'n iawn 'fyd.
Un peth hwylus am y TermCymru newydd yw mai un blwch sydd yna ar
gyfer y ddwy iaith.
Yn aml iawn o'r blaen, doeddwn i ddim yn cael atebion am fy mod i
wedi anghofio ticio'r blwch iaith wrth newid o'r naill i'r llall.
Diolch
Siān
On 15 Apr 2009, at 12:13, Carolyn Iorwerth wrote:
> Mae'n dweud bod angen rhoi dyfynodau o gwmpas geiriau i chwilio am
> yr union
> eiriau, dw i'n meddwl Siān - ond heb drio gwneud hynny fy hun.
> Carolyn
>
> -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Sian
> Roberts
> Anfonwyd/Sent: 15 Ebrill 2009 11:10
> At/To: [log in to unmask]
> Pwnc/Subject: Re: TermCymru
>
> Tybed ydw i'n colli rhywbeth gyda TermCymru ar ei newydd wedd?
>
> A oes modd chwilio am yr union eiriau rydych yn eu rhoi yn y blwch?
>
> e.e. wrth chwilio am "in charge", mae'n cynnig pob math o bethau gyda
> geiriau sy'n
> cynnwys "in" fel "standing charge" a dyw'r atebion ddim yn nhrefn
> yr wyddor.
>
> Diolch am bob cymorth
>
> Siān
|