Cytuno'n llwyr - fel y nodais eisoes, rwy'n cytuno â'r rhan fwyaf o'r rhestr, ond yn teimlo bod ambell enghraifft yn mynd yn rhy bell, ac yn tanseilio diben y rhestr.
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Saunders, Tim
Sent: 18 March 2009 13:20
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Argymhellion yr LGA
Mae hyn yn wir i gyd, ond ar wahan i'r termau cywrain mae llu o eiriau bach eraill yn cael eu dirdynnu a'u hystumio, geirau megis 'within' (yn lle 'in'), 'across' 'vibrant', 'exciting', ayyb.
Tim
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Alun, Steffan
Sent: 18 March 2009 12:46
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Argymhellion yr LGA
Deall hynny, ond does bosib fod "challenge" yn ddigon dealladwy y tu allan i sefydliadau?
Eto, rwy'n teimlo mai atgasedd greddfol at ddefnydd corfforaethau o eiriau gwan sy'n gyfrifol am gynnwys geiriau o'r fath, ac yn fy marn i, mae hynny'n mynd yn rhy bell. Mae "tackling litter is a challenge" yr un mor ddilys â "tackling litter is a problem", a dydw i ddim yn gweld unrhyw reswm i orfodi awduron y darnau gwreiddiol i ddefnyddio'r ail gan honni bod y frawddeg gyntaf yn gamarweiniol.
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 18 March 2009 12:33
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Argymhellion yr LGA
> Ie, mae nhw wedi colli'r pwynt braidd fod rhai geiriau yn cael eu
> bathu gyda ystyr penodol sy'n cael eu deall o fewn y sefydliad.
Dwi'n meddwl mai dyna ydi eu pwynt nhw - sef bod y geiriau'n cael eu deall o
fewn y sefydliad, ond yn da i ddim i gyfathrebu efo'r cyhoedd.
******************************************************************
This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed. If you have received this e-mail in error, please notify the administrator on the following address: [log in to unmask]
Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol: [log in to unmask] *******************************************************************
|