'Buwch ar lawr / wedi mynd lawr' yw'r ymadrodd y ffordd yma, sef buwch (fel
rheol) sydd â diffyg calsiwm neu rywbeth tebyg ar ol dod â llo. Mae angen
cael y milfeddyg ar unwaith wedyn i chwistrellu'n uniongyrchol i'r gwddf, ac
un o ryfeddodau meddygaeth yw gweld y fuwch yn codi o fewn ychydig funudau!
Wn i ddim am ymadrodd byrrach, mae arna i ofn.
Mary
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 03 March 2009 16:51
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Downer cow
Termau Amaethyddiaeth a Milfeddygaeth - downer cow syndrome - clefyd gorwedd
Cydymaith Byd Amaeth - buwch ar lawr - buwch yn methu codi ar ei thraed gan
rhyw wendid neu'i gilydd oherwydd anaf, e.e. buwch yn dioddef o glfyd
ddiffygiant neu diffyg ffosfferws.
Efallai bod enwau eraill yn CAB, ond wedi trio "buwch" a "clefyd" mae'n
anodd gwybod ble i edrych.
Ann
----- Original Message -----
From: "Elin Davies" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, March 03, 2009 2:05 PM
Subject: Downer cow
Dyma esboniad o wikipedia:
http://en.wikipedia.org/wiki/Downer_cow
Oes na rywun yn gwybod am derm cyfatebol?
Diolch o flaen llaw
Elin
----------------------------------------------------------------------------
----
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 8.0.237 / Virus Database: 270.11.6/1981 - Release Date: 03/03/09
07:25:00
|