Os cofiaf ddarlith Arwyn Watkins yn iawn o'r 70au, rhyw 'bwyslais
ymhlyg' sydd yn y frawddeg 'Pum cais ddaeth i law', fel mai dyna'r drefn
gywir yn y frawddeg honno, fel pe bai'n ateb i gwestiwn na ofynnwyd
mohono, sef "Sawl cais ddaeth i law?"
Helen
Geraint Lovgreen wrote:
> Dwi'n gweld be sy gen ti - mae na batrwm yn yr enghreifftiau yna i gyd -
> ond dwnim oes yna reol tu ol i'r peth, dim ond arferiad (ond wedyn
> arferiad ydi sail rheolau gramadeg ynde?). Mae nhw'n swnio'n iawn i fi
> hefyd, os ydi hynny'n helpu dy ddadl!!
>
> Geraint
>
> ----- Original Message -----
> *From:* Osian Rhys <mailto:[log in to unmask]>
> *To:* [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
> *Sent:* Tuesday, March 10, 2009 1:34 PM
> *Subject:* trefn brawddeg gymraeg
>
> Annwyl gyfeillion
>
> Nid cwestiwn termau sydd gen i heddiw, ac ymddiheuriadau am hynny.
> Mae'r 'cwestiwn' heddiw yn llai eglur ac yn ymwneud i ryw raddau â
> threfn brawddegau Cymraeg a'r hyn sy'n "swnio'n iawn" yn fy mhen
> bach i...
>
> *Daeth pum cais i law *(= mae 5 yn swm digonol/derbyniol)
> *Pum cais ddaeth i law *(= ac roedd hyn yn syndod o isel/yn siom).
>
> ie?
>
> Wedyn, a falle nad yw hyn yn gysylltiedig â'r ddwy frawddeg uchod,
> hyd yn oed: a oes rhaid i'r brawddegau canlynol fod yn y drefn maen nhw?
>
> *Bu'r ymdrech i ddifa'r llwynog yn enfawr
> Bach fu'r ymdrech i ddifa'r llwynog
> *
> I fi dyna sy'n swnio'n iawn, ond wn i ddim pam. Neu ydw i'n
> anghywir? Os ydw i'n iawn, dw i angen ceisio cyfiawnhau'r farn yma
> sydd gen i wrth gydweithiwr...
>
> *Mae Dafydd yn ddyn mawr.
> Dyn bach yw Sioni.
> *
> Ond beth am bethau heblaw bach/mawr?
>
> *Teulu tlawd iawn oedd teulu Braich Llwyd.
> Roedd y Wynniaid yn bobl ariannog iawn.
> *
> A dyna pam bod 'cwestiwn' mewn dyfynodau gen i uchod. Dw i ddim hyd
> yn oed yn siŵr be dw i'n ofyn. Mae'n bosibl iawn fy mod yn gofyn
> rhywbeth hollol syml ac elfennol. Ond mae hi'n niwl arna i! A dw i'n
> methu credu mai amser cinio dydd Mawrth ydy hi...!
>
> Diolwch am bob cymorth,
>
> Osian Ddryslyd.
--
Helen Smith (Cyfieithydd/Translator)
Canolfan Bedwyr
[log in to unmask]
Ffôn/Tel: 01248 383253 (allanol/external)
est/ext 3253 (mewnol/internal)
>^..^< >^..^< >^..^< >^..^< >^..^< >^..^< >^..^<
--
Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi,
gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig
gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y
neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar
unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi,
rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a
gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i
hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn
Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu
bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu
100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn
nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract
rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa
Cyllid Prifysgol Bangor. www.bangor.ac.uk
This email and any attachments may contain confidential material and
is solely for the use of the intended recipient(s). If you have
received this email in error, please notify the sender immediately
and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you
must not use, retain or disclose any information contained in this
email. Any views or opinions are solely those of the sender and do
not necessarily represent those of the Bangor University.
Bangor University does not guarantee that this email or
any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless
expressly stated in the body of the text of the email, this email is
not intended to form a binding contract - a list of authorised
signatories is available from the Bangor University Finance
Office. www.bangor.ac.uk
|