On Mar 06, 2009, TEGWEN WILLIAMS wrote:
> Oes rhywun wedi dod ar draws y term hwn? Mae'n golygu targedu marchnad arbenigol, gweddol fach - ar sianelau digidol, dwi'n meddwl - ac mae'n cael ei gyferbynnu â 'broadcasting'.
Er ei fod yn golygu culhau y gynulleidfa mae e fel arfer yn dal i
olygu defnyddio cyfrwng 'broadcast' (h.y. lledaenu signal drwy'r awyr
yn hytrach na yn uniongyrchol lawr lein). Yn saesneg mi fyddai
'narrow broadcasting' wedi bod yn ymadrodd od, ond dyw 'darlledu cul'
ddim mor chwithig.
Mae S4C yn defnyddio 'culhau' i ddisgrifio'r broses a mae 'band cul'
yn cael ei ddefnyddio ar gyfer narrowband, felly mi fyddai 'darlledu
cul' yn dilyn y patrwm.
|