Beth bynnag fo fy marn bersonol i am gywirdeb neu addasrwydd fersiwn Gymraeg enw rhyw gorff, oni bai fod ystyriaethau cyfreithiol oedd yn berthnasol mi fuaswn i'n gyndyn iawn i ryfygu dyfeisio fersiwn newydd heb yn gyntaf ymgynghori â'r corff dan sylw. Fodd bynnag, mi fyddai bathu enw newydd yn creu dryswch dianghenrhaid, ac yn gwneud pobl yn fwy tebyg i gadw at y Saesneg gan fod rhywun yn gwybod lle mae'n sefyll gyda hwnnw.
Tim
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Jones,Sylvia
Prys
Sent: 13 February 2009 11:43
To: [log in to unmask]
Subject: Re: University and College Union
Saunders, Tim wrote:
> 'Undeb Prifysgol a Choleg' mae'r corff dan sylw'n eu galw'u hunain.
>
> Tim
>
Dw i wedi edrych ar eu prif wefan ac mae'n uniaith Saesneg er bod modd
mynd at ddogfennau pdf lle mae'r cyfieithiad 'Undeb Prifysgol a Choleg'
i'w weld. Mae'r enw Undeb Prifysgol a Choleg i'w weld ar wefan Cangen
Bangor. Mae'n anodd bob amser olrhain hynt creu enw Cymraeg ar gyfer
corff newydd. A drafodwyd y mater gan gyfieithwyr neu a gafodd enw ei
lunio ar frys gan gyfieithydd blinedig ryw bnawn dydd Gwener a hwnnw
wedyn yn mynd yn enw 'swyddogol' yn niffyg cynnig arall? Rydym yn cael y
broblem yma o hyd gydag adrannau a chanolfannau ymchwil newydd sydd yn
rhan o fwy nag un brifysgol efallai ac yn cael eu hariannu gan y
Cynulliad a chyrff eraill. Pwy sy'n penderfynu ar yr enw ac os ydym yn
credu bod y cynnig yn anghywir pryd mae'n mynd yn rhy hwyr i'w newid?
Mae'n anodd barnu pryd mae enw wedi 'ennill ei blwy'.
--
Dr Sylvia Prys Jones 01248 382036 <[log in to unmask]>
Uned Gyfieithu/Translation Unit
Canolfan Bedwyr
Prifysgol Cymru, Bangor/University of Wales, Bangor
--
Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi,
gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig
gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y
neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar
unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi,
rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a
gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i
hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn
Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu
bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu
100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn
nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract
rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa
Cyllid Prifysgol Bangor. www.bangor.ac.uk
This email and any attachments may contain confidential material and
is solely for the use of the intended recipient(s). If you have
received this email in error, please notify the sender immediately
and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you
must not use, retain or disclose any information contained in this
email. Any views or opinions are solely those of the sender and do
not necessarily represent those of the Bangor University.
Bangor University does not guarantee that this email or
any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless
expressly stated in the body of the text of the email, this email is
not intended to form a binding contract - a list of authorised
signatories is available from the Bangor University Finance
Office. www.bangor.ac.uk
|