'sgrifennodd Siān Roberts:
> Ond beth os bydd rhywun yn dyfeisio (neu wedi dyfeisio) 'crumbs'?
Mae yna 'breadcrumb trail' mewn gwefannau (i ddangos y llwybr
mae rhywun wedi dilyn i gyrraedd y dudalen ond dyna'r unig ddefnydd
o'r term 'crumbs' yn y maes).
Nid 'briwsion' ydi cookies mewn gwirionedd. Mae hynny'n awgrymu ei
fod yn weddillion o ddarn mwy (bisged).
Mae cookie yn deillio o fortune cookie - ac yn wreiddiol roedd e'n
cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun cyfrifiadurol i olygu pecyn o
wybodaeth oedd yn cynnwys 'cyfrinachau' i greu system syml iawn
o adnabyddiaeth rhwng un darn o feddalwedd a'r llall.
Mae natur cookie yn ystyr gwefannau ychydig yn wahanol. Mae hi'n
amhosib i weinydd gwe adnabod defnyddiwr (neu borwr) unigol fel arfer,
felly mae rhaid creu 'cyfrinach' unigryw sy'n cael ei rannu rhwng y
ddau. Felly mae'r wefan yn danfon darn neu ddarn o wybodaeth unigryw
allan er mwyn i'r gweinydd allu adnabod y porwr bob tro mae'n ymweld
a'r wefan.
Os oedden i'n trosi'r cysyniad o'r cychwyn mi fyddai rhywbeth fel
'tocyn' yn well ond mae cwcis yn fwy adnabyddus nawr.
|