Alison wrote:
> Mae'n rhan o gyflwyniad mewn gweithdy, ac rwy'n cymryd ei fod yn
> adlewyrchu'r hyn fyddai rhywun yn ei ddweud ar lafar i ddisgrifio rhywun
> sydd â'r nodweddion hynny.
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Saunders, Tim
> Sent: 18 February 2009 13:00
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: touchy / pervy
>
> Maes anodd, yn enwedig o ystyried yr holl oblygiadau moesol a chyfreithiol.
> A yw'r term i'w ddefnyddio ar lafar, gyda llaw, neu mewn ysgrifen? Fe
> allai'r ail gyfyngu ar yr hyn fyddai'n ddiogel i'w ddefnyddio. Pwy yw'r
> gynulleidfa arfaethedig?
>
> Ers talwm, pan oedd llawer o ymddygiad gwaradwyddus yn cael ei oddef fel
> rhyw fân ffaeleddau os oedd y person dan sylw yn bwysig neu'n ymddangosiasol
> barchus, byddai mamau yn defnyddio rhyw eiriau 'teg' megis NSWLG. Bellach,
> gyda gwahanol lefelau o ymddygiad annerbyniol yn gofyn am lefelau penodol o
> ymateb, rhaid dewis y termau o fewn cyd-destun y canlyniadau proffesiynol,
> gweinyddol, a chyfreithiol dichonol.
>
> Yn iach,
>
> Tim
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Smith,Helen
> Kalliope
> Sent: 18 February 2009 12:25
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: touchy / pervy
>
>
> "Rhywun sydd ag enw am bawennu pobl ..."? Rhaid imi gyfaddef mai
> 'pawennu' yw'r ferf sy'n dod gyntaf imi.
>
> Helen
>
> annes gruffydd wrote:
>> Mae urban dictionary yn cynnig 5 diffiniad:-
>>
>> Creepy. Describes a middle-aged guy who stares too much and doesn't
>> realize that young girls aren't interested in him. A step below a
>> stalker. Daria, dwi wedi colli'r wefan rwan. Yr ail oedd rhywun sy'n
>> meddwl am ryw drwy'r amser. Doedd y 3 arall ddim yn addas ar gyfer y
>> cyd-destun. Dim llawer o help, sori - mae'n derm mor benagored yn
>> Saesneg o ran ei ddifrifoldeb.
>>
>> Annes
>>
>> 2009/2/18 Alison <[log in to unmask]
>> <mailto:[log in to unmask]>>
>>
>> Y cyd-destun yw cam-drin rhywiol.
>>
>>
>>
>> Mae'r frawddeg yn disgrifio'r troseddwr fel "someone who has a
>> reputation for being "touchy", "pervy"".
>>
>>
>>
>> "rhywun sy'n hoffi cyffwrdd â phobl" a "rhywun gwyrdröedig" yw fy
>> unig gynigion ar hyn o bryd, ond byddwn i'n gwerthfawrogi unrhyw
>> awgrymiadau.
>>
>>
>>
>> Diolch yn fawr.
>>
>>
>>
>>
>
>
Mae 'sglyfeth' yn un gair dw i wedi ei glywed sawl tro i gyfleu'r ystyr yna.
--
Dr Sylvia Prys Jones 01248 382036 <[log in to unmask]>
Uned Gyfieithu/Translation Unit
Canolfan Bedwyr
Prifysgol Cymru, Bangor/University of Wales, Bangor
--
Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi,
gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig
gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y
neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar
unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi,
rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a
gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i
hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn
Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu
bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu
100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn
nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract
rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa
Cyllid Prifysgol Bangor. www.bangor.ac.uk
This email and any attachments may contain confidential material and
is solely for the use of the intended recipient(s). If you have
received this email in error, please notify the sender immediately
and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you
must not use, retain or disclose any information contained in this
email. Any views or opinions are solely those of the sender and do
not necessarily represent those of the Bangor University.
Bangor University does not guarantee that this email or
any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless
expressly stated in the body of the text of the email, this email is
not intended to form a binding contract - a list of authorised
signatories is available from the Bangor University Finance
Office. www.bangor.ac.uk
|