O ran diddordeb i rai, efallai, dyma enwau'r Sidydd a geir mewn cyfres o
englynion o waith Dafydd Nanmor yn eu perthynas a rhannau'r corff:
Dyfrwr
Pysg
Gafr
Tarw
Cranc
Llew
Morwyn
Mantol
Sarff (Sgorpio)
Saethydd
Mae'n son am effaith yr Efeilliaid heb enwi'r arwydd. Mewn cyfnod yn nes
atom, mae'n bosib y byddai rhai o hen lawysgrifau'r dynion hysbys yn
gymorth (hynny yw os nad oedden nhw'r defnyddio'r geiriau Lladin!).
Dw i'n deall y ddadl sy'n dweud bod rhaid i gyfieithiad Cymraeg fod yn
gwbl dealladwy i bawb, ond credaf fod yr enwau traddodiadol Cymraeg am
arwyddion y Sidydd yn hawdd eu deall. Y broblem yw fod llawer o bobl
Saesneg eu hiaith ddim yn deall *ystyr* y geiriau Lladin am arwyddion y
Sidydd. Ond eu problem arbennig nhw yw hynny, does dim rhaid magu'r un
anwybodaeth ymhlith y Cymry. Y Gymraeg yn ei disgleirdeb amdani, meddaf i!
Efallai y byddai'n syniad i'r Cymro neu Golwg greu colofn y ser petai ond
i ail-sefydlu enwau'r Sidydd yn Gymraeg- ond dw i'n credu fy mod i'n
clywed cri o brotest yn barod, felly taw piau hi!
:)
Paul.
> Ti sy'n 'nabod dy gynulleidfa, Annes, ond os nad yw'r Cymry yn deall
fersiynau Cymraeg, mi fydd y dysgwyr yn deall! Daw'r rhain o "Lingo
Newydd: Cylchgrawn Cymraeg Hawdd":
> Yr Hwrdd, Y Tarw, Yr Efeilliad, Y cranc, Y Llew, Y Wyryf, Y Glorian, Y
Sgorpion, Y Saethwr, Yr Afr, Y Cariwr Dwr, Y Pysgodyn.
>
> Ond beth, tybed, o ran diddordeb, oedd enwau'r hen Gymry ar y cytserau
ac
> a oedden nhw'n "gweld" yr un cyfuniadau? Mi wn i am Gaer Arianrhod, a
Chaer Gwydion, a Jac a'i Wagen, ond beth am y gweddill?
>
> Ann
> ----- Original Message -----
> From: annes gruffydd
> To: [log in to unmask]
> Sent: Friday, January 23, 2009 9:44 PM
> Subject: Re: star sign
>
>
> Na fasa, ella, ond y peth pwysig i mi yn y darn yma ydi ei fod yn
hawdd
> ei ddeall - mae pawb yn gyfarwyddd ag Aquarius yn y Lladin a wela i ddim
byd o'i le ar ddal i ddefnyddio'r LLadin. Defnyddied pobol eraill be
fynnon nhw. Fasa'n well gen i tasa'r Eidalwyr yn defnyddio'r LLadin,
tydyn nhw ddim, ond dal i'w defnyddio wna i. Tasa Cariwr Dwr ne Dyfrwr
yn dilyn Sidydd yn y pwt bach yma dwi'n ei wneud fasa gin neb run
obadeia be oedd dim ohono'n ei feddwl. Felly o leia mae Aquarius yn
nabodadwy. I mi'r peth wysig ydi bod pobol yn gwbod ne'n deall am be
dwi'n son.
>
> Annes
>
> 2009/1/23 <[log in to unmask]>
>
> Mae enwau traddodiadol am arwyddion y Sidydd, fuasai hi'n ormod o
> ymdrech i bobol sylweddoli mai'r Dyfrwr (etc) ydy Aquarius?
>
> (Neges gan un a aned dan arwydd Acwarius) :)
> Paul.
> Paul W. Birt, PhD
> Chaire d'Études celtiques,
> Université d'Ottawa,
> 70, rue Laurier,(131)
> Ottawa,
> K1N 6N5
> Ontario
> Canada
> www.modernlanguages.uottawa.ca/celtic.html
> Tél. (613)562-5800(3767)
> Téléc/Fax (613)562-5138.
>
>
>
>
> ----------------------------------------------------------------------------
> From: annes gruffydd
> Date: Fri, 23 Jan 2009 19:55:43 +0100
>
> To: <[log in to unmask]>
>
> Subject: Re: star sign
>
>
> Dyna stori ddifyr - diolch, Er na dwi rioed wedi clwad son am Sidydd
> mi fydd yr ystyr yn ddigon amlwg ddyliwn gan fod Aquarius yn dod yn syth
ar ei ol o - ac ydw, dwi'n mynd i adael Aquarius fel y mae o gan mai
gair Lladin ydi o.
>
> Annes
>
>
> 2009/1/23 Megan Tomos <[log in to unmask]>
>
> Dwi'n meddwl y dylen ni ddefnyddio'r gair Sidydd. Roedd yn eitha
> cyfarwydd i bobl unwaith. Mae grat lechi ym Mhentir ac arwyddion y
Sidydd arni yn ogystal â manylion taith comed yn y bedwaredd ganrif ar
bymtheg. Yn Gymraeg mae popeth ar hon, os dwi'n cofio'n iawn.
Cyn-chwarelwr, Arfonwyson, a anfonodd gynllun y grat i'w chwaer pan oedd
honno'n priodi ac eisiau rhyw gynllun gwahanol i'r grat yn ei chartref
newydd. Llun Pont y Borth sydd ar grat led cae o fan hyn. Roedd
Arfonwyson yn gweithio yn Grenwich yn hanner cyntaf y
> bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r sęr oedd ei ddiddoreb mawr.
>
> Os ydi'r gwaith yn anffurfiol iawn, pam na roi di'r Saesneg mewn
> cromfachau.
>
> Megan
>
>
> --------------------------------------------------------------------------
>
> Date: Fri, 23 Jan 2009 14:19:18 +0100
> From: [log in to unmask]
> Subject: star sign
> To: [log in to unmask]
>
>
>
>
> H.y. taurus etc etc - be ydi'r ffordd fwya dealladwy o ddeud hyn y
> Gymraeg? taswn i'n gweld arwydd Sidydd fasa gin i ddim syniad be oedd o.
Ga i ddeud arwydd seren? Na chaf, dio'm yn swnio'n iawn. Arwydd
seryddol? O twt, ma hi'n bnawn Gwenar a dwi di blino. Peth eitha
anffurfiol ydi'r darn yma gyda llaw, jyst isio iddo fod yn ddealladwy ac
yn gywir. Diolch
>
> Annes
>
>
>
> --------------------------------------------------------------------------
> Windows Live Hotmail just got better. Find out more!
>
>
>
>
>
>
>
> ------------------------------------------------------------------------------
>
>
>
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG - http://www.avg.com
> Version: 8.0.176 / Virus Database: 270.10.13/1912 - Release Date:
> 23/01/2009 18:54
>
Paul W. Birt, PhD
Chair of Celtic Studies
Modern Languages and Literatures
University of Ottawa
70 Laurier E Ottawa ON
K1N 6N5
|