Dw i'n meddwl y dylai fod cysylltiad rhwng yr enw a'r ferf.
Dydi "trwsiad"/"trwsio" ddim yn addas felly - na
"cyweiriad"/"cyweirio" - maen nhw'n swnio'n rhy gyffredinol neu fel
pe baech am helpu'r cyfrifiadur, fel roedden ni'n ddweud ym
Mhencader. Ydi pobl yn dal i ddweud hynny?
O'n i'n meddwl mai sbaddu oedd cyweirio!
patshyn / patsho ?
Siān
On 5 Dec 2008, at 13:39, Meleri H. Hughes wrote:
> Mae'r Geiriadur Cyfrifiadureg yn rhoi 'cyweirio' fel berf am 'patch.'
>
> Meleri
>
>
>
>
> -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Dafydd
> Tomos
> Anfonwyd/Sent: 05 December 2008 13:37
> At/To: [log in to unmask]
> Pwnc/Subject: Re: ATB: patch
>
> On Dec 05, 2008, Meleri H. Hughes wrote:
>> 'Darn' sydd yn y Geiriadur Termau Cyfrifiadureg.
>
> Y broblem yw fod patch yn ferf hefyd
>
> "I am going to apply a patch to the software"
> "I am going to patch the software"
> "I have patched the software"
>
> Mae braidd yn rhyfedd i ddweud "gosod darn i drwsio meddalwedd"
> a dyw hi ddim yn bosib dweud 'darnio' neu 'darniad' am fod eu ystyr
> arferol yn golygu torri/rhannu.
>
> Mi fyddai'n fwy naturiol i ddweud "trwsio'r meddalwedd" a felly
> "trwsio"
> fel berf yn hytrach na "patch" a "trwsiad" fel y darn bach o
> feddalwedd
> sy'n cael ei osod ar ben y meddalwedd gwreiddiol.
>
> -------------------------------------------------------------
> Mae'r e-bost hwn ac unrhyw atodiad iddo yn gyfrinachol ac fe'i
> bwriedir ar gyfer y sawl a enwir arno yn unig. Gall gynnwys
> gwybodaeth freintiedig. Os yw wedi eich cyrraedd trwy gamgymeriad
> ni ellwch ei gopio, ei ddosbarthu na'i ddangos i unrhyw un arall a
> dylech gysylltu a'r anfonwr ar unwaith.
> Mae unrhyw gynnwys nad yw'n ymwneud a busnes swyddogol y corff sy'n
> anfon yr e-bost yn bersonol i'r awdur.
> -------------------------------------------------------------
> This email and any attachments are confidential and intended for
> the named recipient only. The content may contain privileged
> information. If it has reached you by mistake, you should not copy,
> distribute or show the content to anyone but should contact the
> sender at once.
> Any content that is not pertinent to the official business of the
> organisation is personal to the author.
> -------------------------------------------------------------
> Arbedwch bapur, ynni ac arian - Peidiwch argraffu'r neges yma oni
> bai ei bod yn hollol angenrheidiol.
> Save paper, energy and money - Do not print this message unless it
> is absolutely necessary.
|