>byddaf yn creu cofnodion ar wahan yn ein
> cofnodion ni ar gyfer y termau hyn ac unrhyw dermau diddorol eraill y
> dof i ar eu draws.
'Dw i'n siwr y byddai Andrew Hawke o GPC ([log in to unmask]), yn
gwerthfawrogi cael copi hefyd. Fel y mae Bruce yn darllen hen lyfrau - yn
arbennig cofiannau o wahanol ardaloedd - mae'n creu rhestru o eiriau
newydd/diddorol yn y llyfr, fesul tudalen a chyd-destun ac anfon y rhestr at
Andrew. Dyma enghraifft o'r math o wybodaeth y mae'n ei anfon:
Maldwyn: gol. Phillips, Alun (ac eraill) Senedd yr Ifanc Sir Drefaldwyn
(Urdd Gobaith Cymru), 1965.
43 tsiyrn: Ond toc mi ddoth yn i ôl, a be oedd o wedi i neud ond
dipio'i gynffon yn
tsiyrn lëith.
53 amgylch: Ymhlith y chwaraeon lleiaf ceir gornestau Pêl-rwyd ac
Amgylchoedd (Rounders) .
canwio: . fe welir nifer o bobl ifainc yn dechrau dringo creigiau,
gwersylla a chanwo.
Gyda llaw, wrth chwilio gwefan GPC, er mwyn rhoi'r cyfeiriad e-bost
cyffredinol, yn lle un personol, gwelais fod ffurflenni i'w defnyddio wrth
gofnodi gwallau, neu i ymuno a^ phanel o ymgynghorwyr iaith (h.y. derbyn
negeseuon fel "beth oedd eich mam yn galw'r peth-a-peth?"). Mae hefyd modd
gwirfoddoli darllen testunau penodol (modern) er mwyn codi enghreifftiau,
cyfrannu testunau electronig ayb. Mae'r wybodaeth i gyd ar
http://www.cymru.ac.uk/geiriadur/gpc_ymwe.htm#4
Ann
----- Original Message -----
From: "Muiris Mag Ualghairg" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, December 19, 2008 3:34 AM
Subject: Nissen Hut
> Dw i wedi bod yn darllen un o erthyglau Iorwerth C. Peate, Mynydd
> Epynt, a ysgrifenwyd yn 1941 ac a gyhoeddwyd yn ei lyfr 'Ym Mhob Pen
> (1948), yn yr erthygl hon ceir ".... a'm cymdogion yn swatio yn 'y tai
> gerddi yn yml tre Gaerdydd' rhag bomwyr medelwyr y corwynt."
>
> Rwy'n cymryd mai 'Nissen huts' yw'r 'tai gerddi' hyn - a taw 'tai
> gerddi' oedd yr enw 'answyddogol' ymhlith y Cymry Cymraeg (neu o leiaf
> y disgwyliai Iorwerth Peate y byddai'n ddealladwy i Gymry Cymraeg
> wedi'r rhyfel)
>
> Mae nifer o dermau diddorol eraill, er enghraifft 'ymogelwraig' ar
> gyfer 'efaciwi' (ceir ymogelwr yn GPC yn dyddio o 1803) ond nid oes
> cofnod o 'Ymogelwraig' - ond byddaf yn creu cofnodion ar wahan yn ein
> cofnodion ni ar gyfer y termau hyn ac unrhyw dermau diddorol eraill y
> dof i ar eu draws.
>
> Muiris
--------------------------------------------------------------------------------
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - http://www.avg.com
Version: 8.0.176 / Virus Database: 270.9.19/1856 - Release Date: 18/12/2008
20:06
|