Mae'r Eglwys Gatholig wedi symud ymlaen yn enfawr ers 1999. Erbyn hyn
mae'n arddel enw Cymraeg ar bob un o'i hegwlysi hyd yn oed os nad ydynt
i'w gweld yn aml iawn.
Mae'n bolisi defnyddio cymaint o Gymraeg ag sy'n bosibl o leiaf ar yr
allanolion gweladwy.
Mae Castell Newydd Emlyn yn esgobaeth Mynyw a gwn fod Esgob Mulliins
wedi bod yn weithgar iawn yn hyn o beth. Mae pob eglwys Gatholig i fod
yn defnyddio papur pennawd dwyieithog, er enghraifft.
Rwyf newyd gadarnhau gydag un o'r plwyfolion mai 'Ein Harglwyddes
Frenhines Tangefedd' sy'n cael ei arddel.
Sue
Alwyn Evans wrote:
> treiwch roi atalnod yn y canol ac fe gewch ganlyniadau - h.y 'Our Lady
> Queen of Peace, Newcastle Emlyn' - neu 'Our Lady Queen of Peace,
> Castell Newydd Emlyn'
>
> Ond dydi hynny ddim yn ateb y cwestiwn chwaith oherwydd mae pawb yn
> defnyddio'r enw Saeneg. Mae hyd yn oed y Cynulliad ( wrth gofnodi
> cyfarfod mewn eglwys o'r un enw yn Llanelli yn 1999, yn rhoi'r enw
> Saesneg ar ganol dogfen Gymraeg)
>
> Fy nhueddiad i fyddai gwneud yr un modd, neu fydd neb o gastell Newydd
> Emlyn yn adnabod y lle!
>
> Alwyn
> ------------------------------------------------------------------------
>
>
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG - http://www.avg.com
> Version: 8.0.176 / Virus Database: 270.9.13/1827 - Release Date: 03/12/2008 17:41
>
>
|