Ti'n iawn, Tim - Anderson Shelters oedden nhw nid Nissen Huts -
roeddwn wedi drysu rhwng y gwahanol fathau o gabannau a godwyd yn
ystod y rhyfel - ac oes mae rhai mewn gerddi yn y Rhath o hyd (neu eu
holion o leiaf ac yn achosi problemau yn ein gerddi - mae'n amhosibl
tyfu unrhyw beth yn yr ardd drws nesaf oherwydd sylfeini un ohonynt a
oedd yn weddol gyflawn tan yn gymharol ddiweddar pan benderfynodd y
cyn-berchnogion ei ddymchwl a'i lenwi i mewn)
Muiris
2008/12/19 Saunders, Tim <[log in to unmask]>:
> 'tai gerddi' yn swno, o bosib, yn debyg i 'Anderson Shelter' - mae un yn dal i sefyll mewn gardd yn y Rhath.
>
>
> Tim
>
> Tim Saunders
> Cyfieithydd / Translator
> Uned Cyfieithu Cyngor Rhondda Cynon Taf / Rhondda Cynon Taf Council Translation Unit
> Ty Trevithick
> Abercynon
> Rhondda Cynon Taf CF45 4UQ
> Ffôn +44-(0)-1443-744000
>
>
> Nid yw'r e-bost hwn nag unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef o angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Cyngor Rhondda Cynon Taf.
> Mae'r wybodaeth sydd yn y ddogfen hon yn gyfrinachol. Fe all fod yn gyfreithiol freintiedig.
> Bwriedir yr e-bost ar gyfer y person neu'r sefydliad a enwir uchod. Os derbyniwyd yr e-bost hwn trwy gamgymeriad,
> dylid hysbysu'r anfonydd a dileu'r e-bost oddi ar eich system os gwelwch yn dda.
> Os mai nid i chi y bwriadwyd ef ac nid chi yw'r cyflogwr na'r asiant sy'n gyfrifol am roi'r e-bost i'r derbynnydd bwriadedig,
> fe'ch hysbysir gan hyn na chaniateir i chi ddefnyddio, adolygu, lledaenu, dosbarthu na chopio'r e-bost ar unrhyw gyfrif.
> Fe all fod gwneud hynny yn anghyfreithlon.
>
>
> This e-mail and any files transmitted with it are not necessarily the view of Rhondda Cynon Taf Council.
> The information contained in this communication is confidential. It may be legally privileged.
> It is intended only for the person or entity named above.
> If you have received this e-mail in error please notify originator and erase this e-mail from your system.
> If you are not the intended recipient or the employer or agent responsible for delivering it to the
> intended recipient, you are hereby notified that any use, review, dissemination, distribution or copying
> of the e-mail is strictly prohibited. To do so may be unlawful.
>
>
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Roberts, Nia
> Sent: 19 December 2008 09:31
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: ATB: Nissen Hut
>
>
> Falle mod i'n gwbl anghywir - ond a yw'n hi'n bosib bod IC Peate yn cyfeirio at y 'garden suburbs' a oedd yn tyfu yn y dinasoedd yn y cyfnod hwn?
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Siân Roberts
> Sent: 19 December 2008 08:55
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: ATB: Nissen Hut
>
> Ti'n iawn Llyr
> http://en.wikipedia.org/wiki/Nissen_hut
>
> Mae'n debyg mai "tai gerddi" oedd term Gwynfor Evans am "market
> garden" ond na chydiodd y term.
> Dim ond mewn cysylltiad ag ef mae i'w weld ar y we.
>
> Wn i ddim at beth mae Iorwerth Peate yn cyfeirio.
>
> Siân
> On 19 Dec 2008, at 07:40, Translation Unit wrote:
>
>> Ai mannau llochesu rhag cyrchoedd awyr oedd y Nissen Huts? Rwy'n rhyw
>> feddwl taw'r cabanau hanner crwn hynny a oedd yn cael eu codi'n
>> hynod o
>> gyflym ac yn rhad at bob math o ddibenion oedd y rhain - wardiau mewn
>> ysbytyai, barics, storfeydd, swyddfeydd ac yn y blaen. Yn wir mae llu
>> ohonynt i'w gweld hyd heddiw hwnt ac yma ar hen ffermydd.
>>
>>
>> Hwyl,
>>
>> Llyr Evans
>>
>> Prif Gyfieithydd / Principal Translator
>>
>> Uned Gyfieithu/Translation Unit
>>
>> Parc Dewi Sant
>>
>> Caerfyrddin/Carmarthen
>>
>> Est./Ext. 6128
>>
>> Llinell Uniongyrchol/Direct Line : 01267 246128
>>
>> Rhif Ffacs / Fax Number : 01267 246155
>>
>> E-bost/E-mail - [log in to unmask]
>>
>> -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
>> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
>> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Muiris
>> Mag Ualghairg
>> Anfonwyd/Sent: 19 December 2008 03:34
>> At/To: [log in to unmask]
>> Pwnc/Subject: Nissen Hut
>>
>> Dw i wedi bod yn darllen un o erthyglau Iorwerth C. Peate, Mynydd
>> Epynt, a ysgrifenwyd yn 1941 ac a gyhoeddwyd yn ei lyfr 'Ym Mhob Pen
>> (1948), yn yr erthygl hon ceir ".... a'm cymdogion yn swatio yn 'y tai
>> gerddi yn yml tre Gaerdydd' rhag bomwyr medelwyr y corwynt."
>>
>> Rwy'n cymryd mai 'Nissen huts' yw'r 'tai gerddi' hyn - a taw 'tai
>> gerddi' oedd yr enw 'answyddogol' ymhlith y Cymry Cymraeg (neu o leiaf
>> y disgwyliai Iorwerth Peate y byddai'n ddealladwy i Gymry Cymraeg
>> wedi'r rhyfel)
>>
>> Mae nifer o dermau diddorol eraill, er enghraifft 'ymogelwraig' ar
>> gyfer 'efaciwi' (ceir ymogelwr yn GPC yn dyddio o 1803) ond nid oes
>> cofnod o 'Ymogelwraig' - ond byddaf yn creu cofnodion ar wahan yn ein
>> cofnodion ni ar gyfer y termau hyn ac unrhyw dermau diddorol eraill y
>> dof i ar eu draws.
>>
>> Muiris
>
>
> ******************************************************************
> This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed. If you have received this e-mail in error, please notify the administrator on the following address: [log in to unmask]
>
> Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol: [log in to unmask] *******************************************************************
>
|