Falle mod i'n gwbl anghywir - ond a yw'n hi'n bosib bod IC Peate yn cyfeirio at y 'garden suburbs' a oedd yn tyfu yn y dinasoedd yn y cyfnod hwn?
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Siān Roberts
Sent: 19 December 2008 08:55
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB: Nissen Hut
Ti'n iawn Llyr
http://en.wikipedia.org/wiki/Nissen_hut
Mae'n debyg mai "tai gerddi" oedd term Gwynfor Evans am "market
garden" ond na chydiodd y term.
Dim ond mewn cysylltiad ag ef mae i'w weld ar y we.
Wn i ddim at beth mae Iorwerth Peate yn cyfeirio.
Siān
On 19 Dec 2008, at 07:40, Translation Unit wrote:
> Ai mannau llochesu rhag cyrchoedd awyr oedd y Nissen Huts? Rwy'n rhyw
> feddwl taw'r cabanau hanner crwn hynny a oedd yn cael eu codi'n
> hynod o
> gyflym ac yn rhad at bob math o ddibenion oedd y rhain - wardiau mewn
> ysbytyai, barics, storfeydd, swyddfeydd ac yn y blaen. Yn wir mae llu
> ohonynt i'w gweld hyd heddiw hwnt ac yma ar hen ffermydd.
>
>
> Hwyl,
>
> Llyr Evans
>
> Prif Gyfieithydd / Principal Translator
>
> Uned Gyfieithu/Translation Unit
>
> Parc Dewi Sant
>
> Caerfyrddin/Carmarthen
>
> Est./Ext. 6128
>
> Llinell Uniongyrchol/Direct Line : 01267 246128
>
> Rhif Ffacs / Fax Number : 01267 246155
>
> E-bost/E-mail - [log in to unmask]
>
> -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Muiris
> Mag Ualghairg
> Anfonwyd/Sent: 19 December 2008 03:34
> At/To: [log in to unmask]
> Pwnc/Subject: Nissen Hut
>
> Dw i wedi bod yn darllen un o erthyglau Iorwerth C. Peate, Mynydd
> Epynt, a ysgrifenwyd yn 1941 ac a gyhoeddwyd yn ei lyfr 'Ym Mhob Pen
> (1948), yn yr erthygl hon ceir ".... a'm cymdogion yn swatio yn 'y tai
> gerddi yn yml tre Gaerdydd' rhag bomwyr medelwyr y corwynt."
>
> Rwy'n cymryd mai 'Nissen huts' yw'r 'tai gerddi' hyn - a taw 'tai
> gerddi' oedd yr enw 'answyddogol' ymhlith y Cymry Cymraeg (neu o leiaf
> y disgwyliai Iorwerth Peate y byddai'n ddealladwy i Gymry Cymraeg
> wedi'r rhyfel)
>
> Mae nifer o dermau diddorol eraill, er enghraifft 'ymogelwraig' ar
> gyfer 'efaciwi' (ceir ymogelwr yn GPC yn dyddio o 1803) ond nid oes
> cofnod o 'Ymogelwraig' - ond byddaf yn creu cofnodion ar wahan yn ein
> cofnodion ni ar gyfer y termau hyn ac unrhyw dermau diddorol eraill y
> dof i ar eu draws.
>
> Muiris
******************************************************************
This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed. If you have received this e-mail in error, please notify the administrator on the following address: [log in to unmask]
Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol: [log in to unmask] *******************************************************************
|