"tai â phreswylwyr sydd ddim yn berchenogion" felly?
neu "tai â phreswylwyr gwahanol i'r perchenogion"
----- Original Message -----
From: "carolyn" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, December 03, 2008 8:02 PM
Subject: ATB: non-owner occupied housing
Dw i'n teimlo bod 'meddiannu' yn rhoi'r argraff anghywir - i fi, mae dau
ystyr i 'occupy' yn Saesneg - un lle mae rhywun yn meddiannu eiddo - h.y.
yno heb ganiatâd a'r llall lle mae rhywun yn byw yn yr eiddo.
Mae'r 2 ystyr i'w gweld yn y diffiniad hwn:
1 To dwell or reside in.
2. To seize possession of and maintain control over by or as if by conquest.
I fi, ystyr 2 sydd i 'feddiannu'.
Carolyn
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Muiris Mag
Ualghairg
Anfonwyd/Sent: 03 December 2008 19:49
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: non-owner occupied housing
Yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru, ceir gair 'Amherchennog' 'Un nad yw'n
berchennog, gwarcheidwad dros eiddo arall'. Mae Termcymru'n rhoi
'perchen-feddiannydd' ar gyfer 'owner-occupier', Tybed felly a fyddai
modd creu'r term 'Amherchennog-Feddiannydd' ar gyfer 'Non-Owner
Occupier'?
Wedi edrych yn yr Offerynnau Statudol rwy'n gweld mai 'fflatiau ...
wedi'u perchen-feddiannu' yw 'Owner-occupied flats' felly, a fyddai
modd creu, ar sail 'amherchennog', ffurf newydd sef 'wedi'i
amherchen-feddiannu' ar gyfer 'non-owner occupied'?
Muiris
2008/12/3 carolyn <[log in to unmask]>:
> Ti'n iawn Muiris - fedra'i ddim meddwl am lawer gwell na 'tai nad yw'r
> deiliaid yn berchen arnynt' felly.= neu 'tai nad ydynt yn eiddo i'w
> deiliaid'.
>
> -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Muiris Mag
> Ualghairg
> Anfonwyd/Sent: 03 December 2008 18:22
> At/To: [log in to unmask]
> Pwnc/Subject: Re: ATB: non-owner occupied housing
>
> Oes, rhywun sy'n aros yn y tŷ ond heb fod yn denant, er enghraifft, os
> yw'r perchennog wedi 'benthyg' y tŷ i ffrind dros dro heb ffurfio
> tenantiaeth, neu sgwatwyr.
>
> 2008/12/3 Carolyn Iorwerth <[log in to unmask]>:
>> Ai'r ystyr yn y bôn yw mai tai ar rent yw'r rhain? Oes modd iddyn nhw fod
>> yn
>> rhywbeth arall?
>>
>> Carolyn
>>
>>
>>
>> ________________________________
>>
>> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
>> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Melanie
>> Davies
>> Anfonwyd/Sent: 03 Rhagfyr 2008 16:23
>>
>> At/To: [log in to unmask]
>> Pwnc/Subject: non-owner occupied housing
>>
>>
>>
>> Grrrrrrrr - a all rhywun gynnig rhywbeth gwell i mi na 'tai nad ydynt
>> (h.y.
>> pobl benodol) yn berchen-ddeiliaid arnynt?
>>
>>
>>
>> Diolch yn fawr am unrhyw gynigion.
>>
>>
>>
>> Melanie
>>
>>
>
|