Sychu'r ford sy'n naturiol i fi ei ddweud hefyd, a hynny gan ddefnydio
clwtyn gwlyb, nid cadach.
Hg
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Siân Roberts
Sent: 18 November 2008 10:11
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB: dry wipe board
Mae Bwrdd Cadach Sych yn swnio'n iawn i mi. Grêt.
Fyset ti ddim yn sychu'r ford â chlwtyn gwlyb ar ôl bwyd? Bosib mai
un o hynodion iaith y gorllewin yw hynny, felly.
(Dw i ddim yn meddwl eu bod nhw'n ei ddweud yma, chwaith. Rhywbeth
fel "tynnu cadach dros y bwrdd" maen nhw yma dw i'n meddwl)
Ond mae GPC yn rhoi "golchi ymaith" am "sychu" a "wipe (dry)" a "wipe
(clean)"
Diolch
Siân
On 18 Nov 2008, at 09:55, Carolyn Iorwerth wrote:
> Dwi'n cymryd mai bwrdd i'w sychu â chadach sych yn hytrach nag â
> chadach
> gwlyb yw hwn Siân.
> Mae 'sychu'n sych' yn swnio'n od braidd tydi? Go brin fasa neb yn
> sychu'n
> wlyb.
> Ond does gen i ddim cynnig call chwaith! Fasa Bwrdd Cadach Sych yn
> gwneud y
> tro?
>
> -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Sian
> Roberts
> Anfonwyd/Sent: 18 Tachwedd 2008 09:14
> At/To: [log in to unmask]
> Pwnc/Subject: dry wipe board
>
> Oes rhywun wedi dod ar draws y rhain?
> Offer ar gyfer cynhadledd.
>
> Bwrdd sychu'n sych ?
> Bwrdd dileu'n sych ?
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - http://www.avg.com
Version: 8.0.175 / Virus Database: 270.9.4/1792 - Release Date: 16/11/2008
10:04
|