Be - ydi Alt131 a'r lleill yn hen/ansafonol? Does neb wedi deud wrtha i! A
dwi ar Windows Vista!
----- Original Message -----
From: "Prys,Delyth" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, October 06, 2008 2:22 PM
Subject: Re: ATB: Alt + A
Ga i roi sylw cyffredinol ar fater to bach ac acenion yn y Gymraeg.
Yn y gorffennol, fel y gwyddom i gyd yn dda, mae'r rhain wedi bod yn
broblemus i ni ar ein cyfrifiaduron, ac fe ddatblygwyd llawer o atebion
*lleol* (h.y. rhaglenni oedd yn gweithio ar gyfrifiaduron lle roedd y
rhaglen yn cael ei gosod, ond nad oedd yn trosglwyddo i gyfrifiaduron
gwahanol). Erbyn hyn mae safonau rhyngwladol yn ceisio cael un ateb
trosglwyddadwy i'r codau hyn - fel bod yr un cod yn golygu'r un peth ar
gyfrifiadur pawb, ym mhob rhaglen, ac yn dangos yn iawn ar y we.
Datblygwyd hefyd nifer o lwybrau byr (shortcuts) i greu'r acenion hyn
(rhywbeth fel ALT a/neuCTRL + llythyren) i greu'r acen yn lle gorfod
teipio allan rhyw gyfuniad hir o lythrennau a rhifau. Roedd modd i'r
defnyddiwr addasu'i gyfrifiadur unigol i osod llwybr byr o'i ddewis ef i
gynrhychioli acen arbennig.
Mae angen cofio dau beth felly:
1. gall fod llwybr byr gwahanol ar eich peiriant chi i gynrychioli acen
- efallai fod defnyddiwr arall wedi dewis llwybr byr gwahanol ar ei
beiriant ef/hi
2. gall yr acen a gewch drwy eich llwybr byr fod yn un hen neu ansafonol
- mae ALT 131 ar gyfer a gyda tho bach arno yn enghraifft o hyn.
Y safon rhyngwladol sy'n cael ei dderbyn yn awr yw Unicode UTF8. Mae hwn
yn medru trin w ac y gyda'r to bach yn Gymraeg hefyd. Os ewch chi i'r
ddewislen Symbolau yn y rhaglenni Microsoft mwy diweddar, mae'r rhain yn
UTF8 ac mae modd pennu llwybr byr ar eu cyfer.
Fodd bynnag, y ffordd hawsaf ar gyfer y Gymraeg yw gosod rhaglen To Bach
cwmni Draig Technology ar eich peiriant (ewch i'w gwefan i'w chyrchu).
Mae modd llwytho hon i lawr am ddim. UTF 8 yw'r acenion hyn, ac mae
llwybrau byr wedi'u gosod yno yn barod ar eich cyfer. Fel hyn byddwch
chi'n sicr fod eich acenion yn defnyddio'r amgodiad cywir (ac felly'n
trosglwyddo'n gywir i'r we/rhaglenni/cyfrifiaduron eraill).
Gobeithio fod hyn o help,
Delyth
Carolyn Iorwerth wrote:
> Ar ôl edrych ar y we – dw i ddim yn meddwl bod modd defnyddio Word i olygu
> testun yn Outlook Express.
>
>
> ------------------------------------------------------------------------
>
> *Oddi wrth/From:* Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *Ar ran *Catrin
> Beard
> *Anfonwyd/Sent:* 06 Hydref 2008 12:16
> *At/To:* [log in to unmask]
> *Pwnc/Subject:* Re: Alt + A
>
>
> A – newydd sylweddoli mai Outlook ac nid Outlook Express sy gen i, sori
> Geraint.
>
> Dangos faint dwi’n ddeall am gyfrifiaduron…
>
>
> -----Original Message-----
> *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]]*On Behalf Of *Geraint
> Lovgreen
> *Sent:* 06 October 2008 12:15
> *To:* [log in to unmask]
> *Subject:* Re: Alt + A
>
>
> Yn lle yn union Catrin? Dwi fel Non yn methu gweld dewis i ddefnyddio Word
> o fewn Options dan Tools.
>
> ----- Original Message -----
>
> *From:* Catrin Beard <mailto:[log in to unmask]>
>
>
> *To:* [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
>
> *Sent:* Monday, October 06, 2008 11:48 AM
>
> *Subject:* Re: Alt + A
>
>
> Yn fy fersiwn i mae ‘Options’ o dan ‘Tools’ ar y bar offer – wedyn dilyn
> cyfarwyddiadau Carolyn.
>
>
> -----Original Message-----
> *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]]*On Behalf Of *Geraint
> Lovgreen
> *Sent:* 06 October 2008 11:45
> *To:* [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
> *Subject:* Re: Alt + A
>
>
> Does gen i ddim Dewisiadau - ella bod hyn achos mai Outlook Express yn
> hytrach nag Outlook ydwi'n ddefnyddio.
>
> ----- Original Message -----
>
> *From:* Carolyn Iorwerth <mailto:[log in to unmask]>
>
>
>
> *To:* [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
>
> *Sent:* Monday, October 06, 2008 11:23 AM
>
> *Subject:* ATB: Alt + A
>
>
> Ydi – Agor Outlook – Dewisiadau – Fformat Post- ticio Defnyddio Word i
> olygu negeseuon e-bost.
>
>
> ------------------------------------------------------------------------
>
> *Oddi wrth/From:* Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *Ar ran *Geraint
> Lovgreen
> *Anfonwyd/Sent:* 06 Hydref 2008 09:27
> *At/To:* [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
> *Pwnc/Subject:* Re: Alt + A
>
>
> Sut wyt ti'n gwneud yn siwr mai Word ydi'r golygydd testun yn Outlook te?
> Ydi hyn yn gweithio gydag w ac y hefyd?
>
>
> ----- Original Message -----
>
> *From:* Carolyn Iorwerth <mailto:[log in to unmask]>
>
> *To:* [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
>
> *Sent:* Monday, October 06, 2008 10:18 AM
>
> *Subject:* ATB: Alt + A
>
>
> Dw i’n meddwl bod Muiris wedi anfon yr ateb yn syth ata’i gan nad oedd yr
> ymholiad yn ymwneud â thermau. Ond rhag ofn i rywun arall gael yr un
> broblem – yr ateb oedd – agor dogfen yn Word, mynd i Mewnosod Symbol,
> dileu’r dewis oedd gen i eisoes ar gyfer Alt+A yn y rhestr, cau’r ddogfen.
> Yna, agor y ddogfen eto, ailosod Alt+A ar gyfer â a’i chau. Wrth fynd i
> Outlook wedyn, a gwneud yn siŵr mai Word yw’r golygydd testun, mae’r
> gosodiad newydd ar gyfer Alt+A yn disodli’r hen orchymyn a oedd yn anfon
> e-bost wrth bwyso Alt + A.
>
> Carolyn
>
>
> ------------------------------------------------------------------------
>
> *Oddi wrth/From:* Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *Ar ran *CATRIN
> ALUN
> *Anfonwyd/Sent:* 06 Hydref 2008 09:12
> *At/To:* [log in to unmask]
> *Pwnc/Subject:* Re: Alt + A
>
>
> Beth oedd awgrym Muiris? Dwi ddim wedi derbyn y neges honno, ac wedi
> chwilio'r archifau, dwi'n methu dod o hyd iddi'n fanno chwaith!
>
>
> Catrin
>
>
> ----- Original Message ----
> From: Carolyn Iorwerth <[log in to unmask]>
> To: [log in to unmask]
> Sent: Monday, 6 October, 2008 9:42:46 AM
> Subject: Alt + A
>
> Diolch yn fawr iawn i bawb am eu help bnawn Gwener. Gan mai awgrym Muiris
> oedd yr hawsaf i bob golwg – fe roddais gynnig ar hwnnw ac fe weithiodd –
> ac ymddiheuriadau i bawb sydd wedi bod yn cael hanner neges e-bost gen i
> ers dyddiau!
>
> Carolyn
>
--
Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi,
gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig
gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y
neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar
unwaith a dil�wch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi,
rhaid i chi beidio � defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a
gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i
hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn
Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu
bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu
100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn
nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract
rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa
Cyllid Prifysgol Bangor. www.bangor.ac.uk
This email and any attachments may contain confidential material and
is solely for the use of the intended recipient(s). If you have
received this email in error, please notify the sender immediately
and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you
must not use, retain or disclose any information contained in this
email. Any views or opinions are solely those of the sender and do
not necessarily represent those of the Bangor University.
Bangor University does not guarantee that this email or
any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless
expressly stated in the body of the text of the email, this email is
not intended to form a binding contract - a list of authorised
signatories is available from the Bangor University Finance
Office. www.bangor.ac.uk
|