Mae'n ddiddorol (i fi, ta beth) fod pob un o'r enghreifftiau cynnar yn GPC yn cynnwys arddodiad ar ôl 'chwarae' - hynny yw, a diweddaru'r orgraff:
"chwarae ger bron yr Arglwydd ... â thelynau ... ac â thympanau" 1588
"chwarae ar ei hyfryd gerdd-dannau" 1595
"chwarae a'r (sic) yr organ" 1606
"chwarae ar y delyn" 1714
Sy'n awgrymu taw 'chwarae â neu ar offeryn' (neu 'ganu offeryn') sydd yn draddodiadol.
Ond wedi gweud hynny mae'n siŵr bod 'chwarae offeryn' wedi hen ymgartrefu erbyn hyn. A minna'n potsho ar y ffidil a'r gitâr, rwy'n hollol anghyson, yn sôn am eu wara neu'u canu.
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Muiris Mag Ualghairg
Anfonwyd/Sent: 10 Hydref 2008 00:57
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: play an instrument
Dw i ddim yn mynd i ddadlau o blaid 'canu gitar' neu yn ei erbyn - rwy'n cofio'r drafodaeth flaenorol ar y pwnc ac yn derbyn bod 'chwarae' yn digwydd yn y Gymraeg ers cymaint o amser nad oes modd dadlau yn ei erbyn bellach - ond tybed a fydd Ffion (merch ffrind i Huw a finnau) yn chwarae'r delyn ar ei chwrs ym Mangor ynteu'n canu'r delyn?
Ond wedi dweud hynny dyma, o leiaf un, enghraifft o ganu'r gitar
"Fe gafodd Danny ei eni mewn fflat cyngor yng Nhaerdydd ar ôl parti ar hyd y nos gyda'r Ballet Rambert. Roedd ei berfformiad gyhoeddus cyntaf yng nghlwb werin Cardiff Royal Infirmary yn 1970, yn canu gitar gyda'i rieni. I'r anoracs ymysg y darlledwyr, mae fe'n canu y cymysgedd arferol o offerynnau tant, gyda ffrets ac hebddynt, ac yn defnyddio'r dull chwyldroadol 'Bowyer's' ar allweddellau a ffidil. Mae Danny yn perfformio mewn amryw grwpiau eraill yn cynnwys Kilbride (gyda'i frodyr Gerard a Bernard), Yr Hwntws a Juice."
http://www.carreglafar.co.uk/features/musicians/DannyCym.htm
Ond, mae'n ddigon posibl mai cyfieithiad yw'r dyfyniad uchod ac efallai nad oes modd dibynnu arno fel enghraifft o Gymraeg naturiol.
Muiris,
(sy'n gwrando ar Rhian yn canu emynau allan o 'Caneuon Ffydd', a chyda llaw An tUalghargach yw'r ffurf gywir os yw rhywun eisiau cyfeirio ataf gan ddefnyddio'r cyfenw!)
2008/10/9 Huw Garan <[log in to unmask]>:
> 'Canu piano' ddysgais i wrth dyfu lan, ond alla i ddim meddwl am rwyun
> yn canu gitar drydan neu ddrymie nac yn chwarae piano neu ffidil.
> Falle taw fi sy'n rhyfedd - paid ateb, Mag Ualghairg.
>
> Hg
>
> 2008/10/9 Sian Roberts <[log in to unmask]>
>>
>> Mae tuedd i feddwl mai "canu offeryn" - yn enwedig y piano a'r delyn
>> - sy'n gywir yn y Gymraeg er mai "chwarae" y mae'r rhan fwyaf o bobl
>> yn ei ddweud yn naturiol. A oes sail dros hyn?
>> Yn ôl GPC, mae'r ddau ymadrodd yn digwydd ym Meibl 1588, ac yn GyrA o
>> dan "play (an
>> instrument) ceir "chwarae, seinio, occ. canu".
>> Ai dim ond meddwl mai "canu" sy'n iawn am ei fod yn wahanol i'r
>> Saesneg y mae pobl?
>>
>> Diolch
>> Siân
>
>
|