Dwi ddim yn deud mod i'n cael trafferth - dim o gwbwl, i'r gwrthwyneb, dwi
wedi setio fy nghyfrifiadur i fyny fel bod pob aa yn troi'n â, ww yn troi'n
w efo to bach ac ati, felly ddim yn gorfod poeni am y busnes AltGr yma ac
ati. Bob tro fydda i'n dod ar draws gair newydd efo to bach fyddai'n ei
fwydo i mewn i'r AutoCorrect.
Yr unig broblem sy gen i ydi methu gwneud to bach ar w mewn ebost, ond dwi'm
yn gweld hynny'n beth pwysig iawn cyn bellad â mod i'n gallu gwneud
dogfennau Word yn iawn.
Geraint
Beth bynnag, am ryw reswm mae teipio AltGr ac a yn rhoi á i fi, nid â ...
----- Original Message -----
From: "Carolyn Iorwerth" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, October 06, 2008 3:21 PM
Subject: ATB: ATB: Alt + A
> Digon teg Dafydd, ond mae Alt Gr ^ a'r llythyren yn 4 proses ac yn eitha
> trwsgwl i bobl sydd yn teipio llythrennau efo acenion drwy'r dydd. Dyna
> pam
> fod Deinosoriaid fel fi'n defnyddio hen drefn sydd yn ail natur wrth
> deipio.
>
>
> -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Dafydd
> Tomos
> Anfonwyd/Sent: 06 Hydref 2008 14:17
> At/To: [log in to unmask]
> Pwnc/Subject: Re: ATB: Alt + A
>
> On Oct 06, 2008, Prys,Delyth wrote:
>> Ga i roi sylw cyffredinol ar fater to bach ac acenion yn y Gymraeg.
>
> Dwi dal ddim yn deall pam fod gymaint o bobl yn dal i gael trafferth
> gyda hyn yn 2008 a ddim yn mynd ati i ddefnyddio'r bysellfwrdd Cymraeg
> sydd yn Windows XP SP2 a Vista.
>
> Does dim angen dim meddalwedd ychwanegol (er fod To Bach yn haws i
> lawer efallai). Yn bersonol dwi wedi arfer gyda defnyddio'r dechneg
> alt-gr. Dyma ganllaw wnes i sgrifennu 3 mlynedd yn ol:
>
> http://www.rhwyd.org/acenion/
>
|