Diolch yn fawr Ann
Do'n i ddim yn hapus ag "o" am ei fod yn swnio fel "A Fellow from the
Society" - gan nad yw bod yn Gymrawd yr un peth ā bod yn aelod, neu'n
rhan neu'n ddarn o rywbeth ond fe gymeraf gyngor Bruce yn llawen!
Cofion
Siān
On 5 Sep 2008, at 12:43, Ann Corkett wrote:
> Tua 2001, cefais gopi o dermau cydnabyddedig Bwrdd Academaidd
> Prifysgol Cymru. Yr *unig* gyfeiriad at "Fellow of" oedd
> Cymrawd er Anrhydedd o Sefydliadau'r Peirianwyr Mecanyddol, Cemegol
> a Saernļol
> ... a fyddwn i ddim yn barod i seilio gormod ar un enghraifft,
> heblaw y gall pethau fod wedi newid.
> Ar gyfer yr un darn o waith, cefais gop o Galendar y Brifysgol. Ar
> wahan i "Cymrawd Ymchwil Hy^n Pilcher" a "Cymrawd Stott", 'does dim
> so^n am Gymrodyr.
>
> Ar y llaw arall, Mae TermCymru yn rhoi "cymrodor" (ond statws 5).
>
> Gwelaf fy mod i wedi defnyddio "o" weithiau yn y gorffennol, ac
> weithiau ddim. Tybed a ellir osgoi'r broblem trwy ddefnyddio
> atalnod: "Cymrawd, yr Academi Frenhinol Gymreig".
>
> Wedi mwydro mor bell a^ hyn, gofynnais i Bruce, a dyma grynodeb o'i
> ateb:
> Cymrawd o Goleg Iesu - A Fellow of Jesus College
> Cymrawd Coleg Iesu - The Jesus College Fellow - h.y. yr unig un.
>
> Ann
>
>
>
>
> ----- Original Message ----- From: "Siān Roberts"
> <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Friday, September 05, 2008 12:16 PM
> Subject: Re: Fellow
>
>
> Ydi, ond ai "Cymrawd o'r Academi Frenhinol Gymreig" sy'n gywir? - mae
> hynny'n swnio fel "from" i mi - er bod "aelod o" a "rhan o" yn iawn.
> Mae rhai enghreifftiau o "Mae'n Gymrawd yr Academi ...." ar y we, ond
> mae hynny'n swnio'n chwithig hefyd gan fod mwy nag un Cymrawd.
> Ro'n i wedi meddwl dod rownd iddi fel yr awgrymodd Annes ond mae'r
> frawddeg yn mynd ymlaen i ddweud ei fod yn Gymrawd Anrhydeddus mewn
> rhyw sefydliad arall a dydw i ddim yn siwr a oes mwy nag un Cymrawd
> Anrhydeddus - ond byddai'n handi i gael gwybod at y dyfodol beth
> bynnag.
>
> Cymrawd mewn/yn ?
>
> Diolch eto
>
> Siān
>
>
>
> On 5 Sep 2008, at 11:52, Berwyn Jones wrote:
>
>> Mae 'Cymrawd' yn gwbl dderbyniol mewn cylchoed acaemaidd a thu hwnt.
>>
>> Berwyn
>>
>> ----- Original Message ----- From: "Sian Roberts"
>> <[log in to unmask]>
>> To: <[log in to unmask]>
>> Sent: Friday, September 05, 2008 9:43 AM
>> Subject: Fellow
>>
>>
>>
>> Helo
>> Sut mae dweud "He is a Fellow of the Royal Cambrian Academy"?
>> Mae "Mae'n Gymrawd o'r Academi Frenhinol Gymreig" yn swnio'n
>> chwithig i mi - er, wrth
>> gwrs, bod "Mae'n aelod o ..." yn iawn. Dydi "Mae'n Gymrawd yr
>> Academi ..." ddim yn
>> swnio'n iawn chwaith
>> Mae 'na enghreifftiau o "Mae'n Gymrawd o ..." ac "Mae'n Gymrawd
>> yr ..." ar y we.
>> Dw i'n cael fy nhemtio i ddod rownd y broblem trwy ddweud "Mae'n un
>> o Gymrodyr yr
>> Academi ..."
>>
>>
>>
>> ---------------------------------------------------------------------
>> - ----------
>>
>>
>>
>> No virus found in this incoming message.
>> Checked by AVG - http://www.avg.com
>> Version: 8.0.169 / Virus Database: 270.6.16/1652 - Release Date:
>> 04/09/2008 18:54
>
>
> ----------------------------------------------------------------------
> ----------
>
>
>
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG - http://www.avg.com
> Version: 8.0.169 / Virus Database: 270.6.16/1653 - Release Date:
> 05/09/2008 06:57
|