Dw i ddim yn arbenigwr o bell ffordd ond o edrych ar y dystiolaeth ar wikipedia a http://www.birdguides.com/species/species.asp?sp=27017 (does dim byd ar BWPi er bod yn gofnod o alarchwydd yn Llandrindod yn 2006), byddwn i'n meddwl bod angen gwahaniaethu rhwng y tair. Byddwn i'n awgrymu :
alarchwydd (gan ddilyn patrwm hwyadwydd, teulu'r hwyaden ddanheddog) neu gŵydd alarch ar gyfer swan goose, sef y rhywogaeth wyllt, 'wreiddiol';
gŵydd Tsieina - Chinese goose; gŵydd Affrica - African goose (gan ddilyn patrwm gŵydd yr Aifft, gŵydd Canada ac ati) ar gyfer y ddwy rywogaeth ddof .
Hg
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Claire Richards
Anfonwyd/Sent: 05 September 2008 15:51
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: gwyddau
Os yw o unrhyw help, mae erthygl Wikipedia http://en.wikipedia.org/wiki/Chinese_goose yn dweud mai brid dof yw'r Chinese Goose, bod y Chinese Goose a'r African Goose yn ddau frid ar wahân, a bod y ddau'n ddisgynyddion i rywogaeth wyllt y Swan Goose.
Claire
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 05 September 2008 14:55
To: [log in to unmask]
Subject: gwyddau[Spam score: 8%][Scanned]
Rhywun yn gwybod rhywbeth am wyddau?
Y frawddeg sy gen i yw:
Chinese Geese are derived from the wild Swan Goose (Anser cygnoides)
Yn GyrA a GPC, Chinese goose = swan goose swan goose = (Cygnopsis cygnoides) gŵydd Ffrengig
Ond ar wefan Thames Valley Bird Forum, mae'n dweud "Chinese Goose (Anser cygnoides)" a'i bod yn "domesticated from the swan goose"
Ac ar wefan avianweb, mae'n dweud "Swan Goose aka African Goose or Chinese Goose"
Geiriadur arall: Swan goose (Zo["o]l.), a bird of India (Cygnopsis cygnoides) resembling both the swan and the goose.
Chinese goose = Anser cygnoides
Mae'n dweud yn rhywle arall mai o India mae'n dod!
Felly, beth ddweda i? Gwydd Tsieineaidd/Indiaidd/Affricanaidd/Ffrengig! A oes ots?
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG.
Version: 8.0.100 / Virus Database: 0.0.0/0 - Release Date: <unknown> 00:00
|