Ydi, ond ai "Cymrawd o'r Academi Frenhinol Gymreig" sy'n gywir? - mae
hynny'n swnio fel "from" i mi - er bod "aelod o" a "rhan o" yn iawn.
Mae rhai enghreifftiau o "Mae'n Gymrawd yr Academi ...." ar y we, ond
mae hynny'n swnio'n chwithig hefyd gan fod mwy nag un Cymrawd.
Ro'n i wedi meddwl dod rownd iddi fel yr awgrymodd Annes ond mae'r
frawddeg yn mynd ymlaen i ddweud ei fod yn Gymrawd Anrhydeddus mewn
rhyw sefydliad arall a dydw i ddim yn siwr a oes mwy nag un Cymrawd
Anrhydeddus - ond byddai'n handi i gael gwybod at y dyfodol beth bynnag.
Cymrawd mewn/yn ?
Diolch eto
Siān
On 5 Sep 2008, at 11:52, Berwyn Jones wrote:
> Mae 'Cymrawd' yn gwbl dderbyniol mewn cylchoed acaemaidd a thu hwnt.
>
> Berwyn
>
> ----- Original Message ----- From: "Sian Roberts"
> <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Friday, September 05, 2008 9:43 AM
> Subject: Fellow
>
>
>
> Helo
> Sut mae dweud "He is a Fellow of the Royal Cambrian Academy"?
> Mae "Mae'n Gymrawd o'r Academi Frenhinol Gymreig" yn swnio'n
> chwithig i mi - er, wrth
> gwrs, bod "Mae'n aelod o ..." yn iawn. Dydi "Mae'n Gymrawd yr
> Academi ..." ddim yn
> swnio'n iawn chwaith
> Mae 'na enghreifftiau o "Mae'n Gymrawd o ..." ac "Mae'n Gymrawd
> yr ..." ar y we.
> Dw i'n cael fy nhemtio i ddod rownd y broblem trwy ddweud "Mae'n un
> o Gymrodyr yr
> Academi ..."
>
>
>
> ----------------------------------------------------------------------
> ----------
>
>
>
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG - http://www.avg.com
> Version: 8.0.169 / Virus Database: 270.6.16/1652 - Release Date:
> 04/09/2008 18:54
|