'sgrifennodd Claire Richards:
> Wnes i feddwl am hynny, ond mae yna 'flexible software development'
> hefyd.
Mae hynny yn ddisgrifiad cyffredinol ar gyfer datblygu meddalwedd, ond
mae Agile (gyda a fawr) yn ddisgrifiad fwy penodol, gyda phroses a
nifer o dechnegau yn rhan ohono.
Mi fyddai 'hyblyg' yn iawn ar gyfer flexible a dwi'n eitha hoffi Heini
fel trosiad o Agile (mae'n well na'r geiriau arall sy'n bosib fel
chwim neu sionc).
Oherwydd fod yna gymaint o ddogfennau allan yna sy'n cyfeirio at Agile
bron fel nod masnach, mae'n bosib fod hi'n well cynnwys y gair saesneg
hefyd e.e. datblygiad meddalwedd 'heini' (Agile)
|