'Gwli' fyddai'r lôn fach neu'r llwybr rhwng dau dŷ, sbo, ond ar yr un pryd, fyddech chi ddim yn meddwl am gwli fel lle digon mawr i gar.
'Lôn' oedd yr unig air arall gynigiodd Mam pan ofynnes iddi ddwy funud yn ôl.
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Sian Roberts
Anfonwyd/Sent: 11 Medi 2008 11:55
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: lane
Oes rhywun o'r de ddwyrain yma?
Beth y'ch chi'n galw "lane" rhwng dau dŷ mewn stryd neu yn rhedeg y tu ôl i stryd o
dai?
Newydd holi'r cwsmer pa mor llydan yw'r "lanes" ac a oes ceir yn gallu mynd ar eu hyd a
chael yr ateb - "They are single lanes and cars can travel along them."
Oes gair lleol? Os na, ai "lôn"? "ale"?
|