Claire,
Nid oes enw arbenning yn y Gymraeg am a wn i, ond byddai 'byg' yn cyfleu'r
teulu i'r dim yn fy nhyb i - os na wnaiff 'Hemiptera' y tro, heb angen enw
Cymraeg?
Ystyr gwreiddiol 'bug' oedd pryfetach yn nheulu'r Hemiptera yn unig - megis
y 'true bugs'. Defnyddir y term 'bug' hefyd yn y Saesneg yn anffurfiol i ddynodi
unrhyw bryfetach neu rhai anifeiliaid eraill sydd heb asgwrn cefn.
Cofiwch bod defnyddio enwau brodorol am anifeiliaid heb asgwrn cefn yn lled
anarferol drwy'r byd heblaw yn Saesneg - mewn gwledydd eraill ac ieithoedd
eraill yr enw gwyddonol yn unig a ddefnyddir am y mwyafrif o anifeiliaid.
Dafydd
On Thu, 25 Sep 2008 10:24:52 +0100, Claire Richards
<[log in to unmask]> wrote:
>"True Bugs - Order Hemiptera
>
>
>
>Small to large sized insects of widely differing shapes and habits, but
>all with piercing mouthparts adapted for sucking the juices of plants or
>animals. The order is split into two distinct suborders - the Homoptera
>and the Heteroptera. The true bugs form a large Order with about 70,000
>species, of which over 1,500 occur in the British Isles.
>
>
>
>Mae Homoptera'n cynnwys y rhan fwyaf o'r pryfed glas neu lyslau
>(Aphididae)"
>
>
>
>'lleuen wely' mae G yr A yn ei roi, ond wrth gwrs 'bed bug' yw honno,
>sef dim ond un o'r 1,500 o fathau. Allwn i ddefnyddio 'lleuen / llau'?
>Mae 'llysleuen' am 'aphis / aphid' yn awgrymu y gallwn. Ond wedyn,
>'lice' yw 'llau' fel arfer, ac mae'r rheini'n perthyn i'r Phthiraptera,
>nid yr Hemiptera.
>
>
>
>Diolch am unrhyw gymorth.
>
>Claire
>
>
|