Ychydig o ymchwil ynghylch darn o waith cyfieithu yr wyf yn ei gwblhau i
gyfaill yng Nghanada.
Glanyllynnau oedd enw'r ffermdy ar y ffordd rhwng Afonwen a Chriccieth lle yr
arhosodd Thomas de Quincey pan yng Nghymru. Tybed a oes unrhyw un yn
gwybod a yw'r ffermdy yn dal i fodoli heddiw, ac a yw'r enw yr un peth neu
efallai wedi newid erbyn hyn?
Diolch
Eirian
|