Byddwn i'n rhoi 'Cyswllt' neu 'Cysylltwch â'. Yr ail fyddwn i'n ei ddewis
oni bai bod gofod yn brin. Byddai 'Cysyllter â' yn bosibl, ond braidd yn
hen-ffasiwn.
Rhyfedd y gwrthwynebiad i 'person' er bod yr ansoddair 'personol' wedi hen
ennill ei blwyf.
Wedi dweud hynny, mae'r ymadrodd 'yn bersonol, rwy'n/dwi'n ...' yn bla. Does
di o'i le ar 'Rwy' i'n hunan/Dwi fy hun ...', a does dim angen yr 'hun(an)'
gan amla chwaith. Ai ymgais yn Saesneg i osgoi dweud 'I' yn rhy blaen ar
ddechrau brawddeg sydd i gyfri am boblogrwydd y cymal cychwynnol
'Personally, ...', tybed?
Berwyn
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, September 10, 2008 9:30 AM
Subject: contact
Mae hyn yn codi'n eithaf aml.
Cwmni'n anfonebu cwsmeriaid gan roi manylion fel:
Rhif Anfoneb
Rhif Cwsmer
Rhif TAW
Dyddiad
Rhif Ffôn
a
Contact: John Jones
"Cyswllt" sydd yn y fersiwn flaenorol ond dydw i ddim yn hollol hapus â hwn.
Ydi "cyswllt"
wedi dod i olygu "yr un y gallwch gysylltu ag ef"?
Ydych chi'n cael dweud "Pwy yw dy gyswllt di yn yr heddlu?" bellach?
Dydi "cysylltydd" ddim yn golygu yn union yr un peth i mi - mae'n swnio fel
rhywun sydd
yn cysylltu yn hytrach na rhywun i gysylltu ag ef ac mae'n cael ei
ddefnyddio am
"operator".
Dw i'n gwybod bod "cysylltiadau" yn cael ei ddefnyddio am "contacts" ond dw
i ddim yn
meddwl mai "cysylltiad" yw'r unigol, ie?
Mae TermCymru'n defnyddio "swyddog cyswllt y prosiect" am "prosiect
contact".
Beth am "Person Cyswllt"?
Neu osgoi'r broblem trwy ddweud "Cysylltwch â/ag"
Diolch am bob cymorth
Siân
--------------------------------------------------------------------------------
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - http://www.avg.com
Version: 8.0.169 / Virus Database: 270.6.19/1664 - Release Date: 10/09/2008
06:00
|