Wel, i fod yn onest, 'dw i'n amau'ch bod chi'n iawn - er imi gael llythyr
neis iawn gan un rwydro, ddwy flynedd ar ol imi sgwennu ato!
Hwyl,
Ann
----- Original Message -----
From: "Inc Cyfieithu Translations" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Sunday, August 31, 2008 6:09 PM
Subject: Re: Iaith y Daily Post
> Sori, Ann, dim byd personol. Cega ar newyddiadurwyr oeddwn i, nid ar y
> rhai sy'n cwyno.
>
> Wil
>
> Ann Corkett wrote:
>> Mae'n dibynnu beth 'dych chi'n ei feddwl wrth "annealladwy". Gellid
>> anwybyddu ambell "she was sat" yn lle "she was sitting", a gwallau
>> sydd yn amlwg yn codi o newid y testun heb ei newid yn llwyr (newydd
>> newid un o'r rheina yn nhestun y neges hon). Mae'r defnydd o "may" yn
>> lle "might" neu "could" yn mynd yn fwyfwy cyffredin, ac er nad yw bob
>> amser yn gwneud erthygl yn annealladwy, mae weithiau'n golygu ei
>> hail-ddarllen er mwyn deall yn iawn a oedd rhywbeth wedi bod mewn
>> perygl o ddigwydd, ynteu a yw o mewn perygl o ddigwydd o hyd.
>>
>> Hyn oedd yn fy meddwl wrth ofyn, a ddylai rhywun ysgrifennu at yr
>> awdur ynteu at y golygydd. 'Doeddwn i ddim yn meddwl am ysgrifennu at
>> y golygydd i gwyno am un gwall gan un unigolyn, ond ysgrifennu'n
>> gyffredinol, lle mae gwall fel hyn yn mynd yn rhemp trwy gydol y
>> papur, a chan sawl gohebydd. Mae gan "The Times" er enghraifft,
>> ganllawiau arddull ar gyfer ei ohebyddion, fel y mae gan y Cynulliad
>> rywbeth tebyg.
>>
>> Mae'n debyg fy mod in bedant - yn bedant pendant - er y ceisiaf beidio
>> a bod yn drwynsur. Efallai'r unig ateb bydd imi gael fy ngholofn fy
>> hun yn rhywle, lle gallaf gwyno wrth fodd fy nghalon.
>>
>> O ran bod a dim byd gwell i'w wneud; mae'n ddrwg gen i fod mor
>> "siaradus", ond gyda chymaint o bobl ar eu gwyliau, a chyn lleied yn
>> cyfrannau at y cylch, mae'n hawdd anghofio nad ydym ond rhyw hanner
>> dwsin o bobl yn cael sgwrs. 'Taswn i ddim mor brysur - fy mai i:
>> cam-amserlennu gwaith - ac wrth y cyfrifiadur bore, dydd a nos -
>> fuaswn i ddim yn ymuno yn y sgwrs mor aml fel ychydig o ddifyrrwch!
>> "Sad"- trist, ynteu?
>>
>> Yn ol at y gwaith,
>>
>>
>> Ann
>>
>> .
>> ----- Original Message ----- From: "Inc Cyfieithu Translations"
>> <[log in to unmask]>
>> To: <[log in to unmask]>
>> Sent: Saturday, August 30, 2008 7:15 PM
>> Subject: Re: Iaith y Daily Post
>>
>>
>>> Hmm. Beirniadu nid cael eu beirniadu mae newyddiadurwyr. Oni bai bod y
>>> tri gwall yn gwneud yr erthygl yn annealladwy fy nheimlad i yw y
>>> byddai'r newyddiadurwr yn taflu unrhyw gwyn i'r bin ac yn gweld y
>>> beirniad yn bedant trwynsur heb ddim gwell i'w wneud na phigo beiau mewn
>>> gwaith pobl eraill. Gweler Pedants Corner yn Private Eye
>>>
>>> Wil
>>>
>>> Ann Corkett wrote:
>>>> Ymateb i neges Osian Rhys, dan "sick":
>>>> Diolch am dynnu ein sylw at hyn, ond mae'n f'atgoffa i o gwestiwn
>>>> arall a gododd dan "Eryri Gwyrdd".
>>>>
>>>> Os yw hi'n embaras gwybod sut i feirniadu Cymraeg cyhoeddus pobl heb
>>>> fod yn negyddol, a oes modd mynd ati i feirniadu Saesneg gohebyddion
>>>> mewn modd adeiladol?? Sut mae dweud wrth un o ohebyddion y Daily Post,
>>>> er enghraifft, bod tri gwall gramadeg mewn un erthygl ganddo? Ai ato
>>>> fo yn breifat, ynteu at y golygydd, y dylai rhywun ysgrifennu - a pha
>>>> mor aml?
>>>>
>>>> Ann
>>>> ------------------------------------------------------------------------
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> No virus found in this incoming message.
>>>> Checked by AVG - http://www.avg.com
>>>> Version: 8.0.169 / Virus Database: 270.6.13/1642 - Release Date:
>>>> 29/08/2008 18:12
>>>>
>>>>
>>
>>
>> --------------------------------------------------------------------------------
>>
>>
>>
>>
>> No virus found in this incoming message.
>> Checked by AVG - http://www.avg.com
>> Version: 8.0.169 / Virus Database: 270.6.13/1642 - Release Date:
>> 29/08/2008 18:12
>> ------------------------------------------------------------------------
>>
>>
>> No virus found in this incoming message.
>> Checked by AVG - http://www.avg.com
>> Version: 8.0.169 / Virus Database: 270.6.14/1643 - Release Date:
>> 30/08/2008 17:18
>>
>>
--------------------------------------------------------------------------------
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - http://www.avg.com
Version: 8.0.169 / Virus Database: 270.6.14/1643 - Release Date: 30/08/2008
17:18
|