Diolch am yr holl gusanau, Siân, ond rhag ofn i rywun rywdro gopïo fy
nyfyniad o'r darn, efallai y dylwn nodi fy mod wedi teipio 'cenlysg' yn lle
'cenllysg' ...!
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Siân Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, August 28, 2008 9:12 AM
Subject: Re: condensation a precipitation
Annwyl Berwyn
Diolch yn fawr
xxx
Siân!
Ro'n i wedi dod i'r casgliad - os ydi "odi" yn iawn am fwrw eira, y
dylai "dyodi" fod yn iawn hefyd.
On 28 Aug 2008, at 08:23, Berwyn Jones wrote:
> Ar dudalen 325 yn adran 'Geirfa' y cyfieithiad o lyfr David Waugh, 'Y Byd
> Eang', a gyhoeddwyd gan CBAC yn 2005, ceir:
>
> 'dyodiad: y rhan honno o'r gylchred hydrolegol lle caiff lleithder
> atomosfferig ei ddyodi ar arwyneb y Ddaear fel glaw, cenlysg/ cesair,
> ...'
>
> Berwyn
>
> ----- Original Message ----- From: "Sian Roberts"
> <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Wednesday, August 27, 2008 11:04 PM
> Subject: condensation a precipitation
>
>
> Helo
>
> Mae gen i restr o eiriau:
> Evaporation
> Condensation
> Precipitation
> Transpiration
> i'w rhoi ar ddiagram i blant ac yna, ar y gwaelod, mae brawddeg yn
> esbonio'r pedwar gair.
> Fyswn i'n hoffi defnyddio'r berfenwau a dweud "Anweddu" a "Trydarthu" (dw
> i'n hoffi
> "nawsio" (GyrA) ond mae'n debyg mai "trydarthu" sy'n cael ei ddefnyddio
> mewn ysgolion).
>
> Ai "cyddwyso" yw'r gair iawn am "condensation" yn yr ystyr "Mae cymylau'n
> cael eu ffurfio
> pan fydd anwedd dŵr yn oeri ac yn troi nôl yn ddafnau bach, bach o
> ddŵr."? Ie, yn ôl cyfres
> adolygu Bitesize y BBC.
>
> Wedyn "precipitation". "Cyddwyso" sydd yn GyrA. "Dyodiad" yn y Termiadur
> ond heb
> ferfenw. Wela i ddim byd ar wefan ACCAC. Oes y fath air â "dyodi"?
>
>
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG - http://www.avg.com
> Version: 8.0.138 / Virus Database: 270.6.10/1638 - Release Date:
> 27/08/2008 19:06
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - http://www.avg.com
Version: 8.0.138 / Virus Database: 270.6.10/1638 - Release Date: 27/08/2008
19:06
|