Helo
Mae gen i restr o eiriau:
Evaporation
Condensation
Precipitation
Transpiration
i'w rhoi ar ddiagram i blant ac yna, ar y gwaelod, mae brawddeg yn esbonio'r pedwar gair.
Fyswn i'n hoffi defnyddio'r berfenwau a dweud "Anweddu" a "Trydarthu" (dw i'n hoffi
"nawsio" (GyrA) ond mae'n debyg mai "trydarthu" sy'n cael ei ddefnyddio mewn ysgolion).
Ai "cyddwyso" yw'r gair iawn am "condensation" yn yr ystyr "Mae cymylau'n cael eu ffurfio
pan fydd anwedd dŵr yn oeri ac yn troi nôl yn ddafnau bach, bach o ddŵr."? Ie, yn ôl cyfres
adolygu Bitesize y BBC.
Wedyn "precipitation". "Cyddwyso" sydd yn GyrA. "Dyodiad" yn y Termiadur ond heb
ferfenw. Wela i ddim byd ar wefan ACCAC. Oes y fath air â "dyodi"?
|