Yn ol Cydymaith Byd Amaeth ystod yw 'Gwanaf o wair neu o yd wedi ei
ladd, neu weithiau y gwagle a adewir wrth dorri gwanaf'. Mi all ystod
fod yn gul neu'n llydan yn dibynnu ar gryfder a hyd breichiau'r
pladurwr ond allwch chi ddim cael ystod ddibendraw o lydan fel mae
defnyddio ystod i olygu 'range' yn ei gyfleu.
Wil
Siân Roberts wrote:
> Dw i wedi bod yn osgoi defnyddio "ystod eang" ar ôl clywed ffarnwr ar
> y radio yn dweud nad yw ystod yn eang.
> Ydi hynny'n gywir? Un o'r pethau dw i wedi bod yn meddwl edrych i mewn
> iddyn nhw ond heb ddod i ben â hi!
>
> On 23 Aug 2008, at 09:03, Berwyn Jones wrote:
>
>> Gan nad 'gwlad y sgiliau' yw Môn, fe fues i am flynyddoedd yn
>> defnyddio 'medrau', ond brwydro yn erbyn y lli rôn i, a bu'n rhaid
>> ildio yn y diwedd. Efallai y dylwn i fod wedi dechrau defnyddio
>> 'sgilgar' (gair sy'n cadarnhau sylwadau Bruce) am 'skilled' a drysu
>> pethau'n waeth byth!
>>
>> Mae'r un math o beth wedi digwydd yn achos 'opsiwn', lle gwnâi
>> 'dewis' y tro yn aml iawn iawn. Bydda i'n amau hefyd fod 'amrywiaeth
>> mawr o ...' yn rhagori ar 'ystod eang o ...', ond gwell peidio â
>> mentro'n rhy bell i wlad mwypwy.
>>
>> Berwyn
>>
>> ----- Original Message -----
>> *From:* Ann Corkett <mailto:[log in to unmask]>
>> *To:* [log in to unmask]
>> <mailto:[log in to unmask]>
>> *Sent:* Saturday, August 23, 2008 12:06 AM
>> *Subject:* Re: sgiliau
>>
>> Mae Bruce wedi dweud wrthyf sawl tro, 'mae ystyr "sgil" yw "tric"
>> neu "ystryw" ("Sawl sgil wrth gael Wil i'w wely"), a bod
>> defnyddio "sgil " i olygu medr yn golygu colli gair a oedd ag
>> ystyr defnyddiol arall.
>>
>> Ar y llaw arall, mae GPC yn rhoi'r ddau ystyr.
>>
>> Ann
>> ----- Original Message -----
>>
>> *From:* annes gruffydd <mailto:[log in to unmask]>
>> *To:* [log in to unmask]
>> <mailto:[log in to unmask]>
>> *Sent:* Friday, August 22, 2008 11:37 PM
>> *Subject:* sgiliau
>>
>> Sori, jyst isio bwrw mol. Pwy isio bathu'r hen air hyll yna o
>> gwbwl. Be oedd yn bod ar 'medrau'? Mae sgiliau yn swnio fel
>> rhyw hen neidar yn chwydu. Ond go daria, dwi'n gorfod ei
>> ddefnyddio drwy'r amser am ei fod wedi ennilli blwy a
>> chwmniau'n eu galw'u hunain yn Sgiliau rwbath neu'i gilydd.
>> Sut aflwydd y digwyddodd hyn i gyd?
>>
>> Annes
>>
>> No virus found in this incoming message.
>> Checked by AVG - http://www.avg.com
>> Version: 8.0.138 / Virus Database: 270.6.7/1628 - Release Date: 22/08/2008 18:32
>>
>>
>> No virus found in this incoming message.
>> Checked by AVG - http://www.avg.com
>> Version: 8.0.138 / Virus Database: 270.6.7/1628 - Release Date: 22/08/2008 18:32
>>
>>
>
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG - http://www.avg.com
> Version: 8.0.138 / Virus Database: 270.6.7/1628 - Release Date: 22/08/2008 18:32
>
|