Ti'n iawn eto Geraint.
Gwaith newydd fynd nôl gyda "Glaw, eira ac ati"
On 28 Aug 2008, at 12:50, Geraint Lovgreen wrote:
> Pwy fathodd y gair "dyodiad/dyodi" beth bynnag? Mae'n air hyll iawn
> ac yn anodd ei ddweud! Sut mae ychwanegu dy- at y ferf 'odi' (=
> bwrw eira) yn peri iddo olygu bwrw glaw/cenllysg/eirlaw yn ogystal?
> Ac mae'r cyfuniad o lafariaid yn gweiddi allan am gytsain ymwthiol
> rhyngddynt - dyfodi ella? Ond wedyn mae dyfodiad yn golygu rhywbeth
> arall... hmm. Ond dydi'r ffurf dyodi jyst ddim yn naturiol!
>
> Geraint
>
> ----- Original Message ----- From: "Berwyn Jones"
> <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Thursday, August 28, 2008 12:31 PM
> Subject: Re: condensation a precipitation
>
>
> Diolch am yr holl gusanau, Siân, ond rhag ofn i rywun rywdro gopïo fy
> nyfyniad o'r darn, efallai y dylwn nodi fy mod wedi teipio
> 'cenlysg' yn lle
> 'cenllysg' ...!
>
> Berwyn
>
> ----- Original Message ----- From: "Siân Roberts"
> <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Thursday, August 28, 2008 9:12 AM
> Subject: Re: condensation a precipitation
>
>
> Annwyl Berwyn
>
> Diolch yn fawr
> xxx
>
> Siân!
>
> Ro'n i wedi dod i'r casgliad - os ydi "odi" yn iawn am fwrw eira, y
> dylai "dyodi" fod yn iawn hefyd.
>
> On 28 Aug 2008, at 08:23, Berwyn Jones wrote:
>
>> Ar dudalen 325 yn adran 'Geirfa' y cyfieithiad o lyfr David
>> Waugh, 'Y Byd Eang', a gyhoeddwyd gan CBAC yn 2005, ceir:
>>
>> 'dyodiad: y rhan honno o'r gylchred hydrolegol lle caiff lleithder
>> atomosfferig ei ddyodi ar arwyneb y Ddaear fel glaw, cenlysg/
>> cesair, ...'
>>
>> Berwyn
>>
>> ----- Original Message ----- From: "Sian Roberts"
>> <[log in to unmask]>
>> To: <[log in to unmask]>
>> Sent: Wednesday, August 27, 2008 11:04 PM
>> Subject: condensation a precipitation
>>
>>
>> Helo
>>
>> Mae gen i restr o eiriau:
>> Evaporation
>> Condensation
>> Precipitation
>> Transpiration
>> i'w rhoi ar ddiagram i blant ac yna, ar y gwaelod, mae brawddeg yn
>> esbonio'r pedwar gair.
>> Fyswn i'n hoffi defnyddio'r berfenwau a dweud "Anweddu" a
>> "Trydarthu" (dw i'n hoffi
>> "nawsio" (GyrA) ond mae'n debyg mai "trydarthu" sy'n cael ei
>> ddefnyddio mewn ysgolion).
>>
>> Ai "cyddwyso" yw'r gair iawn am "condensation" yn yr ystyr "Mae
>> cymylau'n cael eu ffurfio
>> pan fydd anwedd dŵr yn oeri ac yn troi nôl yn ddafnau bach,
>> bach o ddŵr."? Ie, yn ôl cyfres
>> adolygu Bitesize y BBC.
>>
>> Wedyn "precipitation". "Cyddwyso" sydd yn GyrA. "Dyodiad" yn y
>> Termiadur ond heb
>> ferfenw. Wela i ddim byd ar wefan ACCAC. Oes y fath air â "dyodi"?
>>
>>
>> No virus found in this incoming message.
>> Checked by AVG - http://www.avg.com
>> Version: 8.0.138 / Virus Database: 270.6.10/1638 - Release Date:
>> 27/08/2008 19:06
>
>
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG - http://www.avg.com
> Version: 8.0.138 / Virus Database: 270.6.10/1638 - Release Date:
> 27/08/2008
> 19:06
|