Gorffennais ag athroniaeth ar ol y flwyddyn gyntaf, ond mae ychydig o
chwilio ar Google (triwch Wikipedia) yn awgrymu:
deduction - rhesymu o egwyddor gyffredinol i gasgliad penodol e.e. Mae
dynion i gyd yn marw; mae Socrates yn ddyn; bydd Socrates yn marw. Rhesymu
"from the universal to the particular"
induction - rhesymu o nifer (efallai nifer go fawr) o enghreifftiau i
egwyddor gyffredinol. Bob tro 'dw i wedi cyffwrdd a^ rhew, mae wedi bod yn
oer, felly mae rhew wastad yn oer. Rhesymu "from the particular to the
universal".
'Dw i ddim yn siwr bod 'na gymaint o wahaniaeth a hynny - sut mae cyrraedd
egwyddor gyffredinol ond trwy gasglu enghreifftiau? Ond gadawaf hynny i
eraill? Tim?
Beth bynnag y dewiswch, efallai byddai'n ddoeth ei gadarnhau a^'r awdur!
Ann
----- Original Message -----
From: "Jones,Sylvia Prys" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, August 27, 2008 11:48 AM
Subject: induction and deduction
Wrthi'n cyfieithu deunydd dysgu ym maes seicoleg.
> Induction - you have arrived at a belief (theory) after having examined
> the data.
>
> Deduction - you predict outcomes based on your belief (theory)
Yn anffodus tydi Geiriadur Termau Seicoleg, sef y Geiriadur a baratowyd
gan yr Ysgol Seicoleg ei hun ddim yn gwahaniaethu'n foddhaol rhyngddynt.
induction casgliad eg ffrwyth rhesymu o'r cyffredin i'r arbennig.
deduction tynnu casgliadau be Rhesymu o wybodaeth gyffredinol i
sefyllfaoedd penodol.
I gymhlethu pethau dw i'n cyfieithu ar sleidiau PowerPoint felly byddai
term un gair yn hwylus iawn.
Diolch
Sylvia.
--
Dr Sylvia Prys Jones 01248 382036 <[log in to unmask]>
Uned Gyfieithu/Translation Unit
Canolfan Bedwyr
Prifysgol Cymru, Bangor/University of Wales, Bangor
--
Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi,
gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig
gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y
neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar
unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi,
rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a
gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i
hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn
Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu
bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu
100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn
nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract
rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa
Cyllid Prifysgol Bangor. www.bangor.ac.uk
This email and any attachments may contain confidential material and
is solely for the use of the intended recipient(s). If you have
received this email in error, please notify the sender immediately
and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you
must not use, retain or disclose any information contained in this
email. Any views or opinions are solely those of the sender and do
not necessarily represent those of the Bangor University.
Bangor University does not guarantee that this email or
any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless
expressly stated in the body of the text of the email, this email is
not intended to form a binding contract - a list of authorised
signatories is available from the Bangor University Finance
Office. www.bangor.ac.uk
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - http://www.avg.com
Version: 8.0.138 / Virus Database: 270.6.9/1636 - Release Date: 26/08/2008
19:09
|