Hmm. Beirniadu nid cael eu beirniadu mae newyddiadurwyr. Oni bai bod y
tri gwall yn gwneud yr erthygl yn annealladwy fy nheimlad i yw y
byddai'r newyddiadurwr yn taflu unrhyw gwyn i'r bin ac yn gweld y
beirniad yn bedant trwynsur heb ddim gwell i'w wneud na phigo beiau mewn
gwaith pobl eraill. Gweler Pedants Corner yn Private Eye
Wil
Ann Corkett wrote:
> Ymateb i neges Osian Rhys, dan "sick":
> Diolch am dynnu ein sylw at hyn, ond mae'n f'atgoffa i o gwestiwn
> arall a gododd dan "Eryri Gwyrdd".
>
> Os yw hi'n embaras gwybod sut i feirniadu Cymraeg cyhoeddus pobl heb
> fod yn negyddol, a oes modd mynd ati i feirniadu Saesneg gohebyddion
> mewn modd adeiladol?? Sut mae dweud wrth un o ohebyddion y Daily Post,
> er enghraifft, bod tri gwall gramadeg mewn un erthygl ganddo? Ai ato
> fo yn breifat, ynteu at y golygydd, y dylai rhywun ysgrifennu - a pha
> mor aml?
>
> Ann
> ------------------------------------------------------------------------
>
>
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG - http://www.avg.com
> Version: 8.0.169 / Virus Database: 270.6.13/1642 - Release Date: 29/08/2008 18:12
>
>
|