Sori, Ann, dim byd personol. Cega ar newyddiadurwyr oeddwn i, nid ar y
rhai sy'n cwyno.
Wil
Ann Corkett wrote:
> Mae'n dibynnu beth 'dych chi'n ei feddwl wrth "annealladwy". Gellid
> anwybyddu ambell "she was sat" yn lle "she was sitting", a gwallau
> sydd yn amlwg yn codi o newid y testun heb ei newid yn llwyr (newydd
> newid un o'r rheina yn nhestun y neges hon). Mae'r defnydd o "may" yn
> lle "might" neu "could" yn mynd yn fwyfwy cyffredin, ac er nad yw bob
> amser yn gwneud erthygl yn annealladwy, mae weithiau'n golygu ei
> hail-ddarllen er mwyn deall yn iawn a oedd rhywbeth wedi bod mewn
> perygl o ddigwydd, ynteu a yw o mewn perygl o ddigwydd o hyd.
>
> Hyn oedd yn fy meddwl wrth ofyn, a ddylai rhywun ysgrifennu at yr
> awdur ynteu at y golygydd. 'Doeddwn i ddim yn meddwl am ysgrifennu at
> y golygydd i gwyno am un gwall gan un unigolyn, ond ysgrifennu'n
> gyffredinol, lle mae gwall fel hyn yn mynd yn rhemp trwy gydol y
> papur, a chan sawl gohebydd. Mae gan "The Times" er enghraifft,
> ganllawiau arddull ar gyfer ei ohebyddion, fel y mae gan y Cynulliad
> rywbeth tebyg.
>
> Mae'n debyg fy mod in bedant - yn bedant pendant - er y ceisiaf beidio
> a bod yn drwynsur. Efallai'r unig ateb bydd imi gael fy ngholofn fy
> hun yn rhywle, lle gallaf gwyno wrth fodd fy nghalon.
>
> O ran bod a dim byd gwell i'w wneud; mae'n ddrwg gen i fod mor
> "siaradus", ond gyda chymaint o bobl ar eu gwyliau, a chyn lleied yn
> cyfrannau at y cylch, mae'n hawdd anghofio nad ydym ond rhyw hanner
> dwsin o bobl yn cael sgwrs. 'Taswn i ddim mor brysur - fy mai i:
> cam-amserlennu gwaith - ac wrth y cyfrifiadur bore, dydd a nos -
> fuaswn i ddim yn ymuno yn y sgwrs mor aml fel ychydig o ddifyrrwch!
> "Sad"- trist, ynteu?
>
> Yn ol at y gwaith,
>
>
> Ann
>
> .
> ----- Original Message ----- From: "Inc Cyfieithu Translations"
> <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Saturday, August 30, 2008 7:15 PM
> Subject: Re: Iaith y Daily Post
>
>
>> Hmm. Beirniadu nid cael eu beirniadu mae newyddiadurwyr. Oni bai bod y
>> tri gwall yn gwneud yr erthygl yn annealladwy fy nheimlad i yw y
>> byddai'r newyddiadurwr yn taflu unrhyw gwyn i'r bin ac yn gweld y
>> beirniad yn bedant trwynsur heb ddim gwell i'w wneud na phigo beiau mewn
>> gwaith pobl eraill. Gweler Pedants Corner yn Private Eye
>>
>> Wil
>>
>> Ann Corkett wrote:
>>> Ymateb i neges Osian Rhys, dan "sick":
>>> Diolch am dynnu ein sylw at hyn, ond mae'n f'atgoffa i o gwestiwn
>>> arall a gododd dan "Eryri Gwyrdd".
>>>
>>> Os yw hi'n embaras gwybod sut i feirniadu Cymraeg cyhoeddus pobl heb
>>> fod yn negyddol, a oes modd mynd ati i feirniadu Saesneg gohebyddion
>>> mewn modd adeiladol?? Sut mae dweud wrth un o ohebyddion y Daily Post,
>>> er enghraifft, bod tri gwall gramadeg mewn un erthygl ganddo? Ai ato
>>> fo yn breifat, ynteu at y golygydd, y dylai rhywun ysgrifennu - a pha
>>> mor aml?
>>>
>>> Ann
>>> ------------------------------------------------------------------------
>>>
>>>
>>>
>>> No virus found in this incoming message.
>>> Checked by AVG - http://www.avg.com
>>> Version: 8.0.169 / Virus Database: 270.6.13/1642 - Release Date:
>>> 29/08/2008 18:12
>>>
>>>
>
>
> --------------------------------------------------------------------------------
>
>
>
>
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG - http://www.avg.com
> Version: 8.0.169 / Virus Database: 270.6.13/1642 - Release Date:
> 29/08/2008 18:12
> ------------------------------------------------------------------------
>
>
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG - http://www.avg.com
> Version: 8.0.169 / Virus Database: 270.6.14/1643 - Release Date: 30/08/2008 17:18
>
>
|