Mae'n ddigon posib 'mod i wedi sôn am hyn o'r blaen, ond gwell ei grybwyll
eto ...
Rwy'n cytuno gant y cant â Geraint a Carolyn, ond mae'n werth cofio pwynt a
godwyd gan Enid Pierce Roberts mewn darlith pan oeddwn i yn y brifysgol ym
Mangor, sef bod tuedd yn y gogledd i beidio â chadw at y patrwm hwnnw bob
tro a bod siaardwyr yno'n dweud 'y neuadd bentref' ac ati lle byddai'r
gweddill ohonom yn dweud 'neuadd y pentref'. Hynny, am wn i, sy'n gyfrifol
am y sôn am 'Y Bwrdd Iaith' yn hytrach na 'Bwrdd yr Iaith', er mai 'Bwrdd yr
Iaith Gymraeg ' yw'r teitl swyddogol.
Nid dilorni siaradwyr y gogledd oedd Enid P., dim ond tynnu sylw at ffordd
arbennig o siarad. Ond fe all mai effaith y patrwm gogleddol hwnnw yw ei
gwneud hi'n anos i (rai g)ogleddwyr, yn arbennig, benderfynu pryd y mae
angen cynnwys y fannod a phryd y dylid ei hepgor.
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Geraint Lovgreen" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Saturday, July 05, 2008 10:40 AM
Subject: Re: y fannod o flaen enw sefydliad
> Yn y ddwy enghraifft yna, mi faswn i'n deud "Partneriaeth Respect" am fod
> Respect yn enw priod, ond "y Sefydliad Astudiaethau Polisi" am nad ydi
> astudiaethau polisi'n enw priod.
>
> Cwpan y Byd nid y Cwpan Byd, er enghraifft.
>
>
> ----- Original Message -----
> From: "Dafydd Lewis" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Friday, July 04, 2008 11:13 PM
> Subject: y fannod o flaen enw sefydliad
>
>
> Cwestiwn syml i ramadegwyr mae'n debyg - rydw i wedi defnyddio'r fannod
> wrth son am sefydliadau ambell dro, ond dro arall yn teimlo ei fod yn
> gywirach hebddi. e.e. 'y Bartneriaeth Respect' a 'Partneriaeth Respect'
> ill dau. Sylwaf ar Google bod enghreifftiau megis 'y Sefydliad
> Astudiaethau Polisi' a 'Sefydliad Astudiaethau Polisi' yn cael eu
> defnyddio.
> A oes angen y fannod, ynteu ydi ots?
> dafydd
>
>
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG - http://www.avg.com Version: 8.0.135 / Virus Database:
> 270.4.5/1535 - Release Date: 04/07/2008 17:03
>
>
>
|